Newyddion

Cadwch y dyddiad ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2025

Map of Wales

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn dychwelyd eleni, o 3 Tachwedd hyd at 7 Tachwedd, gan ddod â phobl Cymru at ei gilydd i siarad, cynllunio a gweithredu ar y penderfyniadau hinsawdd pwysicaf.

Ar beth fyddwn ni'n ei ganolbwyntio eleni? Gyda'r cynllun 5 mlynedd nesaf yn cael ei ddatblygu, mae angen i ni edrych ar y newidiadau y gellir eu gwneud mewn meysydd lle mae gan Gymru'r pŵer i arwain a'r cyfle i ffynnu – o sut rydyn ni'n teithio, i sut rydyn ni'n gwresogi ein cartrefi, tyfu ein bwyd a gofalu am ein tir.

Felly, p'un a ydych chi'n dod o'r sector cyhoeddus; diwydiant neu fyd busnes; yn gweithio yn y gymuned, neu'n aelod o'r cyhoedd sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, gallwch gymryd rhan drwy:

  • Ymuno â sesiynau byw ar-lein
  • Cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol, neu gynnal digwyddiad eich hun
  • Ymuno â'r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #WythnosHinsawddCymru a #WalesClimateWeek

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Cadwch y dyddiad ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei chael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas. Cofrestrwch heddiw: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru).


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.