Mae’r gyfraith yn newid ac os ydych chi’n derbyn archebion gan bobl i gael aros dros nos yng Nghymru, bydd angen i chi gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru cyn hir.
I bwy mae hyn yn berthnasol?
Mae’n berthnasol i unrhyw un sy’n derbyn archebion gan bobl i gael aros dros nos, o letywyr anffurfiol i ddarparwyr proffesiynol, ystafell sbâr i ystafell mewn gwesty. P’un ai yw gwesteion yn aros am un noson neu sawl wythnos, mae’r gofyniad yr un peth. Os ydych chi’n derbyn archebion ar gyfer llety ymwelwyr, rhaid i chi gofrestru.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Mae cofrestru llety ymwelwyr yn agor yn hydref 2026. Byddwch yn barod trwy gofrestru i dderbyn y wybodaeth ddiweddara, gan gynnwys nodyn i’ch atgoffa pan fydd y cofrestru’n agor.
Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnal gweminarau i'ch helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau
I gael gwybod mwy a chofrestru i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf, cliciwch ar y dolenni canlynol:
Paratowch i gofrestru eich llety ymwelwyr Cymru | LLYW.CYMRU
Darparwyr llety yng Nghymru i gofrestru o dan gyfraith newydd | LLYW.CYMRU