Bydd pobl ledled Cymru yn arbed dros awr ar amseroedd teithio rhwng gogledd a de Cymru pan fydd coets pellter hir newydd yn lansio yr hydref hwn.
Bydd y gwasanaeth coets newydd yn gweithredu gwasanaethau rheolaidd bob dydd gan gysylltu Bangor â Chaerfyrddin i drawsnewid cysylltedd ledled y wlad a gwella mynediad at swyddi, gofal iechyd, addysg, busnesau a hamdden. Disgwylir iddo hefyd gefnogi gwell mynediad i ymwelwyr â Chymru.
Bydd y gwasanaeth yn stopio yng Ngorsaf Reilffordd Bangor, Caernarfon, Gorsaf Reilffordd Porthmadog, Dolgellau (Sgwâr Eldon), Machynlleth, Prifysgol Aberystwyth, Gorsaf Fysiau Aberystwyth, Aberaeron a Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin.
Yn ogystal â gwella cysylltedd, bydd y gwasanaeth hefyd yn hwyluso trefniadau teithio ar gyfer twristiaeth gynaliadwy i gyrchfannau gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, Pen Llŷn a Bae Ceredigion, ac yn cefnogi trawsnewidiad Cymru i economi wyrddach drwy ddarparu dewis amgen, carbon isel, i'r car.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio'r misoedd nesaf i ddatblygu'r gwasanaeth yn unol â'r 'Rhwydwaith T' ehangach – rhwydwaith trafnidiaeth integredig i Gymru.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Bydd bws newydd rhwng gogledd a de Cymru yn torri mwy nag awr oddi ar amseroedd teithio | LLYW.CYMRU.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd.Cofrestrwch ar gyfer yr Addewid Twf Gwyrdd, ac ymrwymo i gamau cadarnhaol a fydd yn helpu eich busnes i leihau ei ôl troed carbon ac effeithio ar yr amgylchedd gan sicrhau perfformiad cynaliadwy ar yr un pryd.