Newyddion

Busnesau'r DU i elwa wrth i lwyfannau ar-lein dalu cyfran deg i ailgylchu gwastraff trydanol

box of electrical equipment for recycling

O hyn ymlaen bydd marchnadoedd ar-lein yn helpu i dalu costau glanhau gwastraff trydanol, fel peiriannau golchi, radios a sugnwyr llwch, o'n cartrefi a'n strydoedd, wrth i reoliadau newydd sy'n sicrhau tegwch rhwng manwerthwyr y DU ddod i rym i wneud y system yn decach.

Cyn hyn, roedd cwmnïau yn y DU yn talu'r costau ar gyfer casglu a phrosesu gwastraff trydanol, a oedd yn golygu wedyn eu bod dan anfantais o'i gymharu â'u cystadleuwyr ar-lein sydd wedi'u lleoli dramor.

Am y tro cyntaf, bydd y newidiadau’n sicrhau nad yw gweithgynhyrchwyr a mewnforwyr y wlad yn gorfod ysgwyddo baich costau rheoli gwastraff nad nhw oedd yn gyfrifol am ei greu, a hynny’n afresymol, gan wneud y system yn decach i fusnesau Prydain.

Bydd yr arian a gynhyrchir hefyd yn gwella'r broses o gasglu a thrin eitemau gwastraff sy’n cael eu casglu gan awdurdodau lleol a'u dychwelyd i fanwerthwyr, gan helpu i symud tuag at economi fwy cylchol a sicrhau bod mwy o fuddsoddiad mewn seilwaith ailgylchu hanfodol.

Mae'r Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu'n helaeth â manwerthwyr a marchnadoedd ar-lein trwy gydol y broses hon ac mae’n edrych ymlaen at system newydd sy'n decach i bawb.

Ochr yn ochr â'r gofynion ychwanegol ar gyfer marchnadoedd ar-lein, mae categori newydd o offer trydanol ar gyfer fêps wedi'i gyflwyno i sicrhau bod costau eu casglu a'u trin yn disgyn yn deg ar y rhai sy'n eu cynhyrchu.   

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: UK businesses to benefit as online platforms pay their fair share to recycle electrical waste - GOV.UK

Mae'r ymgyrch 'Recycle Your Electricals' yn cynnig adnodd lleoli ar sail cod post ar ei gwefan i helpu pobl i ddod o hyd i fannau ailgylchu lleol ar gyfer eu hen eitemau trydanol, gan ei gwneud hi'n haws i bawb ailgylchu unrhyw beth sydd â phlwg, batri, neu gebl.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei chael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas. Cofrestrwch heddiw: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.