Heddiw (18 Mawrth 2026), dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans, wrth gynhadledd Archwilio Allforio Cymru yn Llandudno fod busnesau o Gymru wedi sicrhau £436 miliwn o werthiannau allforio newydd o ganlyniad uniongyrchol i gymorth allforio Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf.
Gan fod allforion yn cyfrif am dros draean o gynnyrch domestig gros Cymru, mae'n allweddol i uchelgais Llywodraeth Cymru i dyfu'r economi a chreu swyddi newydd.
Ers lansio'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Allforio yn 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi bron i 1,500 o fusnesau sy'n cael cymorth i allforio am y tro cyntaf neu ehangu i farchnadoedd newydd. Mae hefyd wedi cyflawni 89 o genadaethau masnach, gydag 844 o gynrychiolwyr busnes yn cael eu cymryd i farchnadoedd ledled y byd.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Cynghorwyr Masnach Ryngwladol Llywodraeth Cymru wedi cynnal tua 6,000 o gyfarfodydd wyneb yn wyneb â busnesau, wedi cyflwyno dros 430 o brosiectau ymchwil i'r farchnad allforio a chefnogi mwy na 600 o ymweliadau datblygu busnes tramor – o Kenya a Fietnam i'r Ariannin a De Corea.
Mae'r rhaglen Clwstwr Allforio hefyd yn darparu cymorth gan gymheiriaid ar draws chwe sector blaenoriaeth, gyda dros 350 o aelodau. Mae'r Rhaglen Allforwyr Newydd wedi cefnogi 68 o fusnesau sy'n newydd i allforio, gyda chweched carfan bellach ar agor i'w recriwtio.
Mae cwmni gwyddorau bywyd yn y Gogledd, Reacta Healthcare, yn un busnes y mae ei dwf wedi'i yrru gan allforio, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae Reacta yn datblygu cynhyrchion diagnostig alergedd arbenigol a ddefnyddir mewn treialon clinigol byd-eang.
Mae allforion bellach yn cyfrif am 100% o'i fusnes. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae'r cwmni wedi cynyddu ei weithlu o 50 i 80 o bobl ac wedi sicrhau cleientiaid newydd yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Bydd Reacta yn cyflenwi'r contractau newydd hyn yn weithredol dros y 3 blynedd nesaf, sy'n cynrychioli twf sylweddol mewn swm a refeniw. O ganlyniad, mae'r cwmni yn ehangu ei ofod llawr 50% mewn cyfleuster cyfagos i'w safle presennol yng Nglannau Dyfrdwy.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Busnesau o Gymru yn sicrhau £436 miliwn o werthiannau allforio newydd | LLYW.CYMRU ac Archwilio Allforio Cymru.