
I nodi Diwrnod y Ddaear (a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2025) mae Busnes yn y Gymuned (BITC) yn cynnal digwyddiad i archwilio sut y gall busnesau greu pontio teg yng Nghymru.
Mae pontio teg yn daith deg a chynhwysol i ddyfodol sero net sy’n wydn ac yn galluogi pobl a natur i ffynnu, dan arweiniad byd busnes ac:
- wedi'i gynllunio a'i gyflwyno gyda rhanddeiliaid amrywiol
- yn creu cyfleoedd economaidd ac yn galluogi pobl i gael mynediad atynt
- yn mynd ati’n weithredol i adfywio cymunedau a byd natur
Mae BITC yn cynorthwyo busnesau i fynd y tu hwnt i sero net a’r haf hwn bydd yn lansio adnodd Hunanasesu Pontio Teg i roi cymorth i fusnesau weld beth fyddai’r camau ymarferol nesaf iddynt ac i’w gweithredu.
Ymunwch â'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yng Nghaerdydd ar 12 Mehefin 2025 i:
- glywed gan amrywiaeth o siaradwyr o BITC, eu busnesau sy'n aelodau, a'r llywodraeth
- deall sut mae busnesau'n gweithredu ar yr agenda hwn, a’r hyn sy'n bosibl
- ystyried sut y gall adnoddau BITC gyd-fynd â Fframwaith Pontio Teg Llywodraeth Cymru a chefnogi'r gwaith o’i weithredu
Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Tocynnau Diwrnod y Ddaear, Dydd Iau, 12 Mehefin, 2025 am 9:30 AM | Eventbrite
Beth am gofrestru ar gyfer 'Yr Addewid Twf Gwyrdd' a helpu eich busnes i gymryd camau rhagweithiol tuag at eich gwneud yn fwy cynaliadwy.