Newyddion

Buddsoddiad o £8 miliwn i ddatgloi safle gwynt ar y môr dŵr dwfn

Off-shore wind turbine

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £8 miliwn mewn cwmni o Abertawe sy'n datblygu technoleg arloesol sy'n helpu i Gymru ddod yn arweinydd ym maes gwynt ar y môr.

Marine Power Systems (MPS) yw prif ddatblygwr gwynt dŵr dwfn y DU. Bydd y cyllid yn helpu i ddod â'i dechnoleg i ddefnydd masnachol llawn.

Mae tua 80% o adnoddau gwynt ar y môr y byd mewn dŵr rhy ddwfn i lwyfannau tyrbin traddodiadol eu cyrraedd.

Bydd MPS yn defnyddio'r buddsoddiad i farchnata ei blatfform tyrbin gwynt PelaFlex, a all weithredu ar ddyfnderoedd y tu hwnt i 60 metr.

Bydd y buddsoddiad hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer cyfleuster gweithgynhyrchu ar raddfa fawr yng Nghymru, gan greu swyddi gwerth uchel a chryfhau cadwyni cyflenwi lleol, gyda manteision ehangach i uchelgeisiau sero net Cymru.

Mae'r cyllid yn dilyn llwyddiannau diweddar Cymru mewn rowndiau arwerthiant Contract ar gyfer Gwahaniaeth, gan gefnogi'r nod ehangach o adeiladu cadwyn gyflenwi sy'n gallu gwasanaethu'r sector gwynt ar y môr, gan gynnwys defnyddio tyrbinau mewn dŵr dyfnach.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Buddsoddiad o £8 miliwn i ddatgloi safle gwynt ar y môr dŵr dwfn | LLYW.CYMRU.

Gall arloesi helpu eich sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant ac darganfod farchnadoedd newydd. Yma gallwch ddod o hyd i'r hyn o gyllid a chefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.