Newyddion

Buddsoddiad o fwy na £19 miliwn ychwanegol yn ystod y flwyddyn i helpu i dorri biliau gwresogi i aelwydydd ledled Cymru

radiator, scarf around a model white house

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £19.35 miliwn arall eleni mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni cartrefi a gwresogi ynni glân i ostwng biliau ynni a helpu gyda chostau byw y gaeaf hwn.

Mae'r cyllid yn cynnwys £15.2 miliwn ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) a £4.15 miliwn ar gyfer cynllun Nyth, sy'n darparu mesurau gwella ynni cartref am ddim i aelwydydd sydd fwyaf mewn angen.

Mae'r £15.2 miliwn ychwanegol yn codi cyfanswm ymrwymiad ORP eleni i £122 miliwn – gan ddarparu cyfanswm o tua 11,600 o fesurau gwella effeithlonrwydd ynni, megis inswleiddio, paneli solar a phympiau gwres, i gartrefi cymdeithasol ledled Cymru.

Mae targedu cyllid ORP drwy landlordiaid cymdeithasol wedi profi'n llwybr effeithiol i ddatgarboneiddio ar raddfa fawr yn y sector rhentu cymdeithasol. Mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn cael effaith economaidd a chymdeithasol ehangach bwysig, gan greu swyddi lleol a helpu i hyfforddi’r gweithlu, cryfhau cadwyni cyflenwi ynni glân, a meithrin sgiliau a swyddi â chyflog da yn yr economi werdd, ledled Cymru.

Mae'r £4.15 miliwn ychwanegol i Nyth yn codi cyfanswm y buddsoddiad yn y cynllun i £42 miliwn y flwyddyn ariannol hon, gan ddarparu mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim i aelwydydd incwm isel, eu cefnogi drwy'r gaeaf anodd hwn ac adeiladu gwydnwch yn erbyn cynnydd annisgwyl mewn prisiau yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Buddsoddiad o fwy na £19 miliwn ychwanegol yn ystod y flwyddyn i helpu i dorri biliau gwresogi i aelwydydd ledled Cymru | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.