Newyddion

Buddsoddiad Mawr yng Ngogledd Cymru yn creu 140 o swyddi newydd

Engineers

Bydd tua 140 o swyddi’n cael eu creu yng Ngogledd Cymru wrth i Knauf Insulation ddatgelu cynlluniau i fuddsoddi £170 miliwn mewn cyfleuster gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf yn Shotton.

Bydd y datblygiad nodedig hwn yn cynhyrchu dros 100,000 o dunelli o ddeunydd inswleiddio anllosgadwy wedi’i wneud o wlân mwynol bob blwyddyn, ac yn creu tua 140 o swyddi uniongyrchol, a mwy mewn cadwyni cyflenwi lleol.

Mae ymdrechion ar y cyd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac arweinwyr lleol wedi paratoi’r ffordd i Knauf Insulation fod yn hyderus yng Nghymru fel cyrchfan ar gyfer prosiectau trawsnewidiol.

Gyda’i gilydd, mae Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, a Bargen Twf Gogledd Cymru – a gefnogir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru – o blaid penderfyniad Knauf Insulation i leoli ail ffatri yn yr ardal.

Fel arweinwyr yn maes cynhyrchu deunyddiau adeiladu cynaliadwy, mae ehangiad Knauf Insulation yn ategu’r clwstwr gweithgynhyrchu uwch sy’n tyfu yng Ngogledd Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Buddsoddiad Mawr yng Ngogledd Cymru yn creu 140 o swyddi newydd - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.