Newyddion

Buddsoddi er mwyn helpu i dyfu gweithlu cynllunio Cymru

architect - planner

Bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa ar wasanaethau cynllunio lleol cryfach a mwy gwydn yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd £447,400 yn cael ei wario ar hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o gynllunwyr.

Golyga'r buddsoddiad y bydd y cynllun bwrsariaeth Llwybrau at Gynllunio yn parhau (£126,000), gan gefnogi hyd at saith cynllunydd iau newydd gydag astudiaethau ôl-raddedig wedi'u hariannu'n llawn. Bydd cynllun bwrsariaeth newydd i Gynllunwyr Gwledig Canolbarth a Gorllewin Cymru (£321,400 dros dair blynedd) yn creu hyd at 12 o gynllunwyr cymwys ychwanegol mewn ardaloedd gwledig, lle mae'r heriau recriwtio fwyaf acíwt.

Bydd y cynllun newydd hwn yn cefnogi graddedigion newydd a staff presennol yng Ngheredigion, Sir Benfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri a Phowys i astudio ar gyfer cymwysterau ôl-raddedig sydd wedi'u hachredu gan RTPI tra'n aros yn eu cymunedau.

I ddarllen y datganiad llawn dewisiwch y ddolen ganlynol: Buddsoddi er mwyn helpu i dyfu gweithlu cynllunio Cymru | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.