Ydych chi'n berson busnes sy'n gweithio yn Ne Ceredigion?
Ymunwch â brecwast busnes arbennig i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i'r ardal eleni.
Dewch i glywed mwy am y cyfleoedd busnes sydd ar gael ac i gyfarfod Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, John Davies, a Phrif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses.
Manylion:
- Dyddiad ac amser: 8am ar gyfer 8:30am dydd Gwener 19 Mehefin 2026
- Lleoliad: Ystafell y Tŵr, Castell Aberteifi, Green Street, Aberteifi SA43 1JA
Cynhelir digwyddiadau tebyg yn Sir Benfro a gorllewin Sir Gâr dros yr wythnosau nesaf.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Brecwast Busnes Eisteddfod y Garreg Las | Eisteddfod.