Newyddion

Bodloni Sero Net gyda Phŵer Lle

Mae Innovate UK KTN yn cyhoeddi adroddiad rhyngweithiol 'Meeting Net Zero with the Power of Place' a chyfres o bodlediadau ar sut y gall data lleoliad ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. 

Mae'r adroddiad, sy'n cynnwys fideos, astudiaethau achos, yn ogystal â sylwebaeth ysgrifenedig, yn archwilio potensial enfawr data geo-ofodol, twf cynhwysol arloesi, cydweithio, meddwl system a newid diwylliannol wrth ddelio â heriau byd-eang. 

Mae enghreifftiau traws-sector yn cynnwys:  

  • Ynni – Mae gan ddata geo-ofodol y potensial i ddatgelu safleoedd addas ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrddach fel ynni'r haul, gwynt a thonnau; mae'r lleoliadau ar gyfer safleoedd o'r fath wedi’u seilio ar ddata arsylwi'r ddaear ar ddaearyddiaeth, hinsawdd naturiol ac amodau tywydd presennol.
  • Natur – Mae camerâu lloeren yn caniatáu ar gyfer monitro datgoedwigo mewn amser real ledled y byd. Mae Global Forest Watch yn monitro 600 miliwn hectar o goedwigoedd ar unrhyw un adeg ac mae wedi rhybuddio awdurdodau am gloddio anghyfreithlon a thorri coed yn foncyffion mewn ardaloedd gwarchodedig o'r Amazon. 
  • Yr Amgylchedd Adeiledig – Mae cwmnïau geo-ofodol Prydeinig yn gweithio gyda Homes England a Llywodraeth Cymru i helpu cynllunwyr trefol i greu amgylcheddau trefol mwy gwydn, sy’n ystyried cynaliadwyedd a sero net. 
  • Trafnidiaeth – Gall data cellog 4G a 5G helpu i gynllunio gosod pwyntiau gwefru EV drwy olrhain llwybrau poblogaidd, yn enwedig wrth i'r ddarpariaeth ymestyn i ardaloedd gwledig. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Meeting Net Zero with the power of place (ktn-uk.org)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.