Newyddion

Beth all eich clwb chwaraeon gael cyllid ar ei gyfer gyda’r Grant Arbed Ynni?

Tennis court and solar panels

O gadw eich hen glwb yn gynnes yn ystod y gaeaf i dorri biliau trydan gyda phaneli solar, mae mwy a mwy o glybiau chwaraeon yng Nghymru yn uwchraddio i ddod yn fwy effeithlon ac arbed arian ar filiau.

Diolch i'r Grant Arbed Ynni, gallai eich clwb gael hyd at £25,000 i gyllido gwelliannau arbed ynni sy'n gwneud gwahaniaeth.

Dyma 7 ffordd i uwchraddio y gallwch chi eu gwneud yn eich clwb chwaraeon i ddod yn wyrddach a lleihau eich Biliau:

  • Ffenestri a drysau
  • Systemau gwresogi a dŵr poeth
  • Inswleiddio
  • Paneli solar
  • Goleuo
  • Datrysiadau dŵr cynaliadwy
  • Batris storio

Dyddiad cau: 3pm, 25 Mehefin 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Grant Arbed Ynni | Chwaraeon Cymru | Chwaraeon Cymru

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r mannau o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw ar Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.