Newyddion

Beacons: Cronfa Ffilmiau Byrion

Close-up of operator using professional camera during shooting with director controlling the process

Mae Ffilm Cymru’n cyllido datblygu a chynhyrchu ffilmiau byrion gweithredu byw, dogfen ac animeiddio ar gyfer cynulleidfaoedd sinema, gan gyfarwyddwyr wedi eu geni neu’n byw yng Nghymru.

Mae cronfa Beacons yn cyfuno arian y Loteri Genedlaethol a ddaw drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ac arian y BFI NETWORK a ddaw drwy Sefydliad Ffilmiau Prydain.

Pwy sy’n gallu gwneud cais:

  • Timau awdur, cyfarwyddwr (neu awdur-gyfarwyddwr) a chynhyrchydd
  • Timau awdur a chyfarwyddwr (neu awdur-gyfarwyddwr ar ben eu hunain) heb gynhyrchydd eto

Rhaid i gyfarwyddwr y prosiect naill ai fod wedi cael eu geni yng Nghymru neu’n byw yma. Dylai awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr fod yn gallu dangos enw da creadigol yn eu rôl (mewn ffilm neu ffurf arall berthnasol ar gelfyddyd) ond heb eto fod wedi cyfarwyddo ffilm nodwedd a dderbyniodd gytundeb dosbarthu masnachol.

Gallwch ymgeisio am hyd at £25,000 i wneud un ffilm gweithredu byw, animeiddio, dogfen neu hybrid yn para hyd at 15 munud ac wedi’i thargedu at gynulleidfaoedd sinema.

Dyddiad cau: 12 Mehefin 2026 am hanner dydd.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Beacons: Cronfa Ffilmiau Byrion | Ffilm Cymru.

O gyllid ac adnoddau i gefnogaeth ac canllawiau, rydym wedi ymrwymo i helpu ein diwydiannau creadigol i ffynnu. Archwiliwch y cyfleoedd sydd ar gael i chi: Hafan | Cymru Greadigol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.