Newyddion

Banc Datblygu Cymru yn Lansio Cronfa Olyniaeth Busnes Cymru gwerth £40 Miliwn

small business owner

Mae Cronfa Olyniaeth Busnes Cymru newydd gwerth £40 miliwn wedi'i lansio gan Fanc Datblygu Cymru i gefnogi allbryniannau a mewnbryniannau gan reolwyr ledled y wlad, gan helpu i gynnal perchnogaeth Gymreig, diogelu swyddi, a sicrhau parhad busnes hirdymor.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd, mae'r gronfa'n cynnig pecynnau ecwiti a dyled strwythuredig rhwng £500,000 a £5 miliwn gyda thelerau hyd at saith mlynedd. Rhagwelir y bydd yn cefnogi mwy na 1,000 o swyddi ledled Cymru ac yn adeiladu ar lwyddiant Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru gwerth £25 miliwn, sy'n cau eleni ar ôl cefnogi 26 o bryniannau a diogelu dros 700 o swyddi ers ei lansio yn 2019.

Mae Cronfa Olyniaeth Busnes Cymru yn cynnig cymysgedd o ecwiti a dyled i strwythuro pecynnau ariannu amyneddgar o £500,000 i £5 miliwn. Mae telerau hyd at saith mlynedd ar gael i helpu i ariannu buddsoddiadau olyniaeth. Rhagwelir y bydd y gronfa'n cefnogi dros 1000 o swyddi.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Banc Datblygu Cymru yn Lansio Cronfa Olyniaeth Busnes Cymru gwerth £40 Miliwn i Ddiogelu Swyddi a Pherchnogaeth Gymreig - Dev Bank

Mae Perchnogaeth gan Weithwyr yn golygu bod gan bob gweithiwr fuddiant arwyddocaol ac ystyrlon yn y busnes.

Os yw buddiant rheolaethol yn eich busnes yn cael ei ddal gan neu ar ran yr holl weithwyr (y perchnogion-weithwyr), gelwir hyn yn fusnes a berchnogir gan weithwyr. Ewch i wefan Perchnogaeth Gweithwyr Cymru i gael cyngor pwrpasol wedi'i ariannu'n llawn ar Berchnogaeth Gweithwyr, Cynlluniau Cyfranddaliadau ac opsiynau cynllunio olyniaeth yn eich busnes.

Gall darganfod ble i fynd i ganfod cyllid a dewis y math cywir fod yn anodd. Mae’n adnodd cyllid yma i helpu.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.