
RWE yw’r gweithredwr ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru, gan gynhyrchu traean o holl drydan adnewyddadwy Cymru. Gyda’i gilydd, mae’r prosiectau ar y tir, ar y môr a hydro y mae RWE yn eu gweithredu yn cynhyrchu digon o drydan i ddiwallu anghenion cyfatebol dros 550,000 o gartrefi. Mae hynny’n bron i hanner yr aelwydydd yng Nghymru.
RWE sy’n arwain gweithgareddau datblygu Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr.
Os ydych chi’n rhan o gwmni sy’n gweithio ym maes ynni gwynt ar y môr, neu os hoffech chi gael gwybod sut gallwch fod yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd yng nghadwyn gyflenwi Awel y Môr, dylech chi ystyried cofrestru ar gyfer Rhaglen Ymgysylltu Tryloywder Cyflenwyr RWE.
Mae’r rhai sydd wedi cofrestru yn rhan o gronfa ddata sydd â swyddogaeth chwilio agored gyda chyflenwyr eraill, ac maent yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau a chyfleoedd rheolaidd i gwrdd â rheolwyr ein cadwyn gyflenwi.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Gweithio gyda Chyflenwyr - Awel Y Mor