
Bob blwyddyn mae'r DU yn croesawu miliynau o ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Gall hyn gynnwys gwyliau, cyfnod astudio tymor byr neu daith busnes.
Mae Llywodraeth y DU yn gwneud gwelliannau i ddarparu system fewnfudo ddigidol symlach a fydd yn gyflymach ac yn fwy diogel i'r miliynau o bobl sy'n pasio trwy ffiniau’r DU bob blwyddyn.
Mae angen Awdurdodiad Teithio Electronig (ETA) ar ymwelwyr â'r DU os nad oes angen fisa arnyn nhw ar gyfer arhosiad byr o hyd at chwe mis, neu os nad oes ganddyn nhw statws mewnfudo yn y DU eisoes.
Mae angen Awdurdodiad Teithio Electronig ar ymwelwyr cymwys sy'n dal awyren i rywle arall ac sy'n pasio trwy ffiniau’r DU. Ar hyn o bryd nid oes angen Awdurdodiad Teithio Electronig ar y rhai sy'n teithio ac nad ydyn nhw’n pasio trwy ffiniau’r DU.
Mae Awdurdodiad Teithio Electronig yn ganiatâd digidol i deithio, nid yw'n fisa nac yn dreth ac nid yw'n caniatáu mynediad i'r DU, mae'n awdurdodi person i deithio i'r DU.
Nid oes angen Awdurdodiad Teithio Electronig ar ddinasyddion Prydain ac Iwerddon, na phobl sydd â statws o dan Gynllun Setliad yr Undeb Ewropeaidd (EU)
Mae Awdurdodiad Teithio Electronig yn costio £16 ac mae'n caniatáu nifer o deithiau i'r DU ar gyfer arhosiad o hyd at chwe mis ar y tro dros ddwy flynedd neu hyd nes bod pasbort y deiliad yn dod i ben – pa un bynnag sydd gynharaf.
Mae'r fideo ‘What is an Electronic Travel Authorisation?’ yn rhoi trosolwg cyflym o'r Awdurdodiad Teithio Electronig a phwy fydd angen un. Mae'r fideo ‘Getting started: applying for an ETA’ yn rhoi gwybodaeth gam wrth gam o'r broses ymgeisio am Awdurdodiad Teithio Electronig.
Mae gwneud cais am Awdurdodiad Teithio Electronig yn gyflym ac yn syml. Gall ymwelwyr dderbyn mwy o wybodaeth ar gyfer gwneud cais am Awdurdodiad Teithio Electronig ar GOV.UK.