Newyddion

Awdurdod Safonau Hysbysebu: Pam mae hysbysebu da yn dda i fusnes

online shopping - couple

Mae'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) yn hyrwyddo hysbysebu cyfrifol, gan gydnabod ei fod yn ysgogi cystadleuaeth ac yn rhoi hwb i'r economi; ac mae hyn i gyd yn dda i bobl, cymdeithas, a busnesau. Mae eu rheolau’n berthnasol ar draws y cyfryngau, gan gynnwys honiadau ar wefannau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol y busnesau eu hunain.

Ydych chi o’r farn nad ydych chi'n hysbysebwr? Os ydych chi'n gwneud honiadau ar eich gwefan am eich busnes, y cynhyrchion a'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu neu'n eu gwerthu, maent yn debygol o gael eu categoreiddio fel hysbysebion o dan reolau’r Awdurdod Safonau Hysbysebu. Mae'n bwysig felly eich bod chi'n osgoi gwneud honiadau camarweiniol neu anghyfrifol.

Mae'r mwyafrif o'r hysbysebion y mae'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn cymryd camau yn eu herbyn bob blwyddyn yn dod gan fusnesau bach; maen nhw'n gwybod bod gennych lawer i'w wneud ac na fydd gennych o reidrwydd yr un adnoddau ag asiantaeth hysbysebu na thîm cydymffurfio i wirio a ydych chi'n dilyn y rheolau. Felly, mae'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn tynnu sylw at yr adnoddau a'r gefnogaeth maen nhw'n eu cynnig i'ch helpu i sicrhau bod eich hysbysebion yn iawn. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth Copy Advice , sy'n cynnig cyngor cyfrinachol ac arbenigol am ddim, cyn cyhoeddi, ynghylch a yw honiadau hysbysebion yn cyd-fynd â'r Codau Hysbysebu.

Mae eu herthyglau cyngor ar-lein hygyrch, fideos byr, modiwlau e-ddysgu, a chylchlythyrau i gyd ar gael i’ch helpu i gadw at y rheolau.

Nid yw'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn dibynnu ar gŵynion yn unig i ganfod hysbysebion problemus. Maent yn gweithio'n rhagweithiol, gan ddefnyddio system monitro hysbysebion weithredol sy'n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisiaI ac sy'n adolygu dros dair miliwn o hysbysebion ar-lein y mis. Trwy gymryd camau yn erbyn honiadau hysbysebion camarweiniol neu anghyfrifol, maent yn helpu i greu ymddiriedaeth ymhlith defnyddwyr ac ymdriniaeth gyfartal ymhlith busnesau, gan alluogi hysbysebu cyfrifol i ffynnu.

Ewch i'w canllawiau llawn a'u hadnoddau ar-lein a darllenwch fwy am yr holl waith maen nhw'n ei wneud yma: The work we do - ASA | CAP


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.