Newyddion

Atgoffa rhieni pobl ifanc yn eu harddegau i fynd ar-lein i ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant

parent and teenager saving money in piggy bank

Os oes gennych weithwyr â phlant rhwng 16 a 19 oed, mae gwybodaeth bwysig y mae angen iddynt ei wybod fel nad ydynt yn colli allan ar hyd at £1,354 y flwyddyn mewn Budd-dal Plant.

Mae CThEF yn ysgrifennu at rieni i roi gwybod iddynt fod yn rhaid iddynt gadarnhau a yw eu plant yn eu harddegau yn aros mewn addys llawn amser, neu hyfforddiant, cyn y dyddiad cau o 31 Awst 2025.

Gallwch helpu eich gweithwyr i gael y taliadau y mae ganddynt hawl iddynt drwy eu hatgoffa i ymestyn eu hawliad am Fudd-dal Plant ar-lein neu drwy ap CThEF.

Mae'r llythyr y byddant yn ei dderbyn yn cynnwys cod QR defnyddiol sy'n mynd â nhw'n syth i'r gwasanaeth digidol ar GOV.UK neu gallant chwilio am 'ymestyn Budd-dal Plant' a mewngofnodi i'w cyfrif ar-lein.

Os nad yw rhieni yn dweud wrth CThEF erbyn 31 Awst 2025 bod eu plentyn yn aros mewn addysg llawn amser nad yw’n gwrs uwch neu hyfforddiant cymeradwy ar ôl 16 oed, bydd eu Budd-dal Plant yn dod i ben. Gall rhieni wirio a ydynt yn gymwys ar GOV.UK.

Tâl Treth Budd- dal Plant ar gyfer rhieni Incwm Uchel - Os yw eich gweithwyr neu eu partneriaid wedi optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant oherwydd eu hincwm, mae’n dal angen iddynt ymestyn eu hawliad. Mae'r swm y gall rhieni ei ennill cyn bod angen iddynt dalu'r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel bellach wedi cynyddu i rhwng £60,000 a £80,000.

Anogwch eich gweithwyr i ddefnyddio'r gyfrifiannell treth Budd-dal Plant ar-lein i gael amcangyfrif o faint o fudd-dal y byddant yn ei dderbyn, a beth all y tâl fod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.