Blogiau

Ateb negeseuon e-bost dros y penwythnos? Pum ffordd o gamu'n ôl o ddiwylliant ymlaen o hyd

Man at laptop

Gan Peter Johnson, Partner Aur ar y Rhaglen Cyflymu Twf

Yn anaml mae diwylliant ymlaen o hyd yn dechrau gyda pholisi. Mae'n dechrau gydag ymddygiadau: arweinydd sy’n ateb negeseuon e-bost am 10pm neu sy'n gwirio negeseuon ar ddydd Sul. Mewn busnes sy'n tyfu, gall hi deimlo bod angen y cyflymder hwnnw. Mae bob amser cleient i'w gadw'n hapus neu benderfyniad na all aros.

Y broblem yw nad yw hynny'n aros gyda chi. Mae eich tîm chi’n sylwi pan fyddwch chi ar-lein, hyd yn oed os dwedwch chi wrthyn nhw nad oes angen ateb, a bydd llawer yn dilyn eich esiampl chi. Dros amser, mae bod ymlaen o hyd yn mynd o fod yn gyfnod prysur ac yn dod yn ffordd y caiff pethau eu gwneud. Mae'r ffin rhwng gwaith a chartref yn cymylu, i chi ac iddyn nhw.

Pam mae hyn yn bwysig

Gall bod ymlaen o hyd edrych fel ymrwymiad, ond mae cost i hynny. Mae gan bob un 'ffenestr goddefgarwch'. Pan fyddwch chi yn y ffenestr honno, mae gennych chi'r lle i feddwl yn glir ac ymdrin â beth sy’n dod atoch chi.

Ond gall straen uchel neu ddiffyg cymorth wneud i’r ffenestr honno grebachu, gan wneud i bopeth deimlo'n llethol. Nid yw hyn o fudd bob amser wrth wneud penderfyniadau busnes.

Mae'n effeithio ar eich tîm chi hefyd. Pan fydd pobl yn teimlo na allan nhw ymlacio, mae blinder yn cronni, mae camgymeriadau'n cynyddu ac mae pobl dda yn dechrau chwilio am rywle arall. Cymryd amser i ailwefru sy'n gwneud gwaith caled yn bosibl.

Dyma bum ffordd o gamu'n ôl o ddiwylliant ymlaen o hyd:

1. Sylwch pan fydd prysurdeb wedi dod yn normal

'Mae straen yn ymlusgo i mewn yn araf', meddai Katie Pledge, y Prif Gwnselydd yn Platfform. 'Rydyn ni'n dod mor gyfarwydd â rhygnu ymlaen fel nad ydyn ni'n sylwi arno nes inni gyrraedd pen ein tennyn'.

Dechreuwch gydag ymwybyddiaeth. Unwaith yr wythnos, holwch eich hun beth sydd wedi newid yn ddiweddar. Ydych chi'n ateb negeseuon yn hwyrach nag yr oeddech chi'n arfer ei wneud neu'n hepgor cinio yn amlach? Wedyn meddyliwch ai rhywbeth dros dro yw hyn, fel ymdrech diwedd blwyddyn, neu a yw'n dod, yn dawel fach, yn batrwm gwaith i chi.

2. Edrychwch ar beth sy'n llenwi eich bwced chi

Mae Katie yn defnyddio'r syniad o fwced straen: 'Dychmygwch fwced anweledig y tu mewn i chi sy'n casglu eich holl straen chi. Mae popeth, gwaith, bywyd cartref, arian, iechyd, yn diferu i'r bwced hwnnw'.

Pan fyddwch chi'n tyfu, mae'n llenwi o bob cyfeiriad: llif arian, recriwtio, cleientiaid a gwybod bod swyddi pobl eraill yn dibynnu ar eich penderfyniadau chi. Mae ffyrdd iach o ymdopi yn gweithredu fel 'tapiau ar ochr y bwced, gan ryddhau’r pwysau'. Gallai hyn olygu dod o hyd i bwrpas, symud eich corff, treulio amser gyda phobl sy'n rhoi hwb i chi neu ofyn am help.

Efallai y gallai gorweithio, colli teimlad a dweud ie i bopeth fod o gymorth yn y tymor byr, ond mae’r rhain yn ail-lenwi'r bwced yn gyflym.

Ysgrifennwch dri pheth sy'n llenwi eich bwced ar hyn o bryd ac un strategaeth ymdopi iach ar gyfer pob un.

3. Gosodwch ffiniau y gall eich tîm eu gweld nhw

Canolbwyntiwch ar beth y gallwch chi ei reoli. Dyw popeth ddim o dan eich rheolaeth chi, ond efallai bod rhai pethau.

Ffiniau yw un o'r pethau hynny, a dim ond os gall pobl eu gweld nhw y maen nhw'n newid y diwylliant:

  • Dewiswch amser gorffen darllen negeseuon e-bost a negeseuon eraill. Os byddwch chi'n gweithio'n hwyr, defnyddiwch ddull amserlennu anfon fel bod negeseuon yn cyrraedd yn y bore.
  • Byddwch yn glir ynghylch beth y mae gwir angen ymateb iddo y tu allan i oriau a beth all aros.
  • Torrwch dasgau mawr yn gamau llai, fel bod llai o bethau'n teimlo'n faterion brys.
  • Dywedwch wrth eich tîm beth rydych chi'n ei wneud a pham. Mae'n dangos iddyn nhw ei bod hi'n iawn camu i ffwrdd hefyd.

4. Rhowch yr un amser ymlacio i chi'ch hun ag y byddech chi'n ei roi i'ch tîm

Pe bai rhywun yn eich tîm chi’n gweithio'n hwyr bob nos ac yn edrych yn flinedig, mae'n debyg y byddech chi'n dweud wrthyn nhw am gymryd saib. Nid yw'r rhan fwyaf o arweinwyr yn caniatáu hynny iddyn nhw eu hunain.

Peidiwch byth â dibrisio'r pethau sylfaenol. Gall cymryd seibiannau, mynd allan, mynd am dro a gwneud amser ar gyfer gweithgareddau sy'n dod â llawenydd i chi eich helpu i wneud i chi deimlo'n fwy sefydlog. Cadwch nhw yn eich dyddiadur.

5. Gofynnwch pwy sy'n gofalu amdanoch chi

Mewn busnes sy'n tyfu, mae gan bawb rywun i droi ato ac eithrio'r person sydd ar y pen. Ni allwch chi rannu eich pryderon gyda'ch tîm bob amser, ac efallai na fydd ffrindiau na theulu yn deall yn llawn y pwysau sydd arnoch chi.

Mae'n werth bod yn fwriadus ynglŷn â hyn. Gallai hynny fod yn gymar sy'n rhedeg busnes tebyg, mentor, hyfforddwr neu gwnselydd: rhywun y tu allan i'r busnes y gallwch chi feddwl yn uchel gydag ef cyn gwneud penderfyniad mawr, yn hytrach na'i wneud ar eich pen eich hun.

Cyrraedd mis Ionawr gydag egni

Gall eich ffenestr goddefgarwch dyfu eto, hyd yn oed mewn amgylcheddau heriol.

Mae eich tîm yn cymryd ei awgrym gennych chi. Camwch yn ôl o fod ymlaen o hyd, ac rydych chi’n rhoi caniatâd iddyn nhw wneud yr un peth.

Angen cymorth? Os yw straen neu bwysau yn effeithio ar eich llesiant chi, ystyriwch gysylltu â chymar dibynadwy, mentor, hyfforddwr neu wasanaeth cymorth proffesiynol fel Platfform, Mind neu'r Samariaid. Gall gweithredu’n gynnar helpu i atal straen rhag eich llethu chi’n llwyr.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.