Newyddion

Atal llithro, baglu a syrthio wrth iddi nosi’n gynt

Wet leaves and a brush

Gall nosweithiau tywyllach a thywydd oerach gynyddu'r risg o lithro, baglu a syrthio yn y gweithle. Mae gan fusnes ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau iechyd a diogelwch ei staff, gwirfoddolwyr, contractwyr a defnyddwyr.

Mae llithro a baglu yn achosi dros draean o'r holl anafiadau mawr a gallant hefyd arwain at fathau eraill o ddamweiniau, fel syrthio o uchder neu i mewn i beiriannau.

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn gall arwynebau fod yn beryglus, sy'n golygu y gall damweiniau llithro a baglu ddigwydd yn fwy aml. Mae yna ddigon o ffactorau tymhorol i'w hystyried wrth osgoi'r mathau hyn o ddamweiniau gan gynnwys:

  • diffyg goleuadau
  • gormod o ddŵr o ganlyniad i law
  • dail gwlyb a rhai sy’n pydru

Mae canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn eich helpu i ddeall beth sy'n achosi llithro a baglu a sut i'w hatal ac mae eu tudalennau gwe llithro a baglu hefyd yn rhoi digon o wybodaeth ac adnoddau pellach, gan gynnwys cyngor ar beth i'w wneud nesaf os oes damwain llithro neu faglu yn y gwaith.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.