
Os ydych chi'n berchen ar fusnes gweithgynhyrchu, yn gweithio (neu wedi gweithio) yn y sector, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa weithgynhyrchu yn y DU. Mae Women in Manufacturing eisiau clywed gennych.
Cymerwch ran yn yr arolwg byr hwn (tua 10 munud), sy'n archwilio nodweddion arwain sy'n hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb ym maes gweithgynhyrchu yn y DU. Mae'r arolwg yn cael ei arwain gan IfM Engage, Athrofa Gweithgynhyrchu, Prifysgol Caergrawnt, ar ran y Women in Manufacturing UK Initiative, rhwydwaith o weithwyr proffesiynol sy'n ymroddedig i feithrin sector cynhwysol.
Nodwch y bydd yr arolwg yn cau ar 30 Mehefin 2025.
Cefnogi Merched yng Nghymru: Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn cydnabod pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid benywaidd i economi Cymru. Darganfyddwch fwy: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (llyw.cymru)