Mae busnesau ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i leisio eu barn ar anghenion gweithlu’r dyfodol yn y rhanbarth, fel rhan o’r gwaith i ddatblygu Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth newydd ar gyfer 2026 i 2028.
Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol - Uchelgais Gogledd Cymru wedi lansio arolwg byr ar-lein i gyflogwyr er mwyn casglu mewnwelediad uniongyrchol i’r heriau sgiliau a recriwtio sy’n wynebu busnesau heddiw, a pha gefnogaeth fydd ei hangen dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd yr adborth yn helpu i lunio Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth tri blynedd nesaf Gogledd Cymru, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion diwydiant mewn amser real ac yn cefnogi twf economaidd ar draws y rhanbarth.
Bydd yr arolwg, sydd ar agor i fusnesau o bob maint, yn cau am 12pm ddydd Gwener, 10 Mawrth 2026.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Uchelgais Gogledd Cymru | Anogir Cyflogwyr i Lunio Cynllun Sgiliau’r Dyfodol i Ogledd Cymru.