Newyddion

Arolwg Busnes Cymru Wledig 2025

Machynlleth, Cymru

Cymru Wledig LPIP Rural Wales yw'r Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Leol ar gyfer Cymru Wledig, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.

Mae'r fenter yn cynnwys prifysgolion Cymru sy’n gweithio mewn partneriaeth â busnesau, sefydliadau'r trydydd sector, cymunedau a llunwyr polisi i ddod o hyd i atebion i'r heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae'r bartneriaeth yn cynnal ymchwil newydd, ar ffurf arolwg, i gyflwr mentrau gwledig yng Nghymru. Mae'r arolwg hwn wedi'i gynllunio er mwyn gwella'r sylfaen dystiolaeth am fusnesau sy'n gweithredu yng nghefn gwlad Cymru, yn benodol ar themâu fel seilwaith, cyfraniadau cymunedol, twf ac arloesedd, trawsnewid sero net, cyflogaeth a gweithwyr a chyllid busnes.

Mae'r arolwg ar agor tan 21 Rhagfyr 2025 ac mae'n gwahodd ymatebion gan fusnesau sy'n gweithredu yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Bro Morgannwg a Sir Fynwy.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Arolwg Busnes Cymru Wledig 2025 ac Amdanom ni - Cymru Wledig LPIP.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.