Cynhelir Arddangosfa Fawr Busnes a Bywyd Halal (The Big Halal Business and Lifestyle Expo) 2026 ddydd Sul 22 Tachwedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae'r digwyddiad yn dod â thros 7,500+ o ymwelwyr a 100+ o arddangoswyr amrywiol at ei gilydd, mae ar agor i bawb ac mae tocynnau yn rhad ac am ddim.
P'un ai ydych chi eisiau siopa am frandiau lleol neu rwydweithio â busnesau sy’n ffynnu mae rhywbeth yma i bob cenhedlaeth a chymuned.
Mae uchafbwyntiau'r digwyddiad yn cynnwys:
- Cynllun Lansio Busnesau: Darganfyddwch brosiectau newydd, siopwch yn uniongyrchol gan grewyr lleol, a chefnogwch entrepreneuriaid sy'n dod i’r amlwg.
- Rhwydweithio Proffesiynol: Cysylltwch â channoedd o weithwyr proffesiynol, entrepreneuriaid ac arweinwyr diwydiant Mwslimaidd o bob cwr o Gymru a De-orllewin Lloegr i ehangu eich rhwydwaith ac adeiladu partneriaethau gwerthfawr.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: The Big Halal Business & Lifestyle Expo Tickets, Sunday, November 22 • 11 AM - 5:30 PM | Eventbrite.
Chwiliwch ein Digwyddiadur am hyfforddiant, seminarau, gweithdai a rhwydweithio busnes gan wahanol gyrff: Digwyddiadur Busnes Cymru.