Mae Awyrofod Cymru wedi cyhoeddi manylion ar gyfer 4edd Arddangosfa Awyrofod Cymru, a fydd yn cael ei chynnal ar 24 Mawrth 2026 yn Venue Cymru, Llandudno.
Mae’r digwyddiad blaenllaw hwn yn dod â’r aelodau a’r gymuned ehangach o’r sectorau awyrofod, amddiffyn, a gofod at ei gilydd i arddangos cynnyrch, gwasanaethau ac arloesedd blaengar i gymheiriaid yn y diwydiant ac i brif arweinwyr y sector.
Bydd y diwrnod yn dod i ben gyda sesiwn rhwydweithio anffurfiol, gan roi cyfle i fynychwyr wneud cysylltiadau newydd a chryfhau cysylltiadau diwydiannol.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad a chofrestru ar gyfer tocynnau neu gofod arddangos, cliciwch ar y ddolen hon: Aerospace Wales Showcase Expo 2026. Venue Cymru, Llandudno - Aerospace Wales.