Os yw eich busnes yn allforio neu os oes gennych ddiddordeb mewn masnachu dramor, ac yn dymuno cael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, cofrestrwch ar gyfer ein cynhadledd!
Prif elfennau’r diwrnod:
- Prif sesiwn – clywch gan allforwyr llwyddiannus Cymru yn rhannu eu profiad a chynghorion defnyddiol.
- Un-i-un gyda chynrychiolwyr marchnad tramor – gall mynychwyr gael sesiwn gyda chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor i gael cipolwg ar gyfleoedd allforio.
- Arddangosfa – bydd sefydliadau cefnogi o ar draws ecosystem allforio Cymru, gan gynnwys cyllid, cyfreithiol, logisteg ar gael i gynorthwyo eich busnes.
- Parth Allforio Llywodraeth Cymru – cewch gyfarfod ein Hymgynghorwyr Masnach Ryngwladol a chael golwg ar ein hoffer cefnogi digidol.
- Gweithdai allforio – cyfres o sgyrsiau sy’n benodol ar gyfer darparu’r wybodaeth allweddol ddiweddaraf a chyngor ar fasnach ryngwladol.
Dyddiadau a lleoliadau:
- Dydd Iau 12 Mawrth – Stadiwm Dinas Caerdydd
- Dydd Mercher 18 Mawrth – Venue Cymru, Llandudno
I wybod mwy ac i gyflwyno cais dewiswch y ddolen ganlynol: Digwyddiad Archwilio Allforio Cymru 2026.