
Mae'r fersiwn gyntaf o'r Ap GOV.UK ar gael i'w lawrlwytho ar ffonau clyfar, gan roi gwasanaethau cyhoeddus ym mhocedi pobl i'w harbed rhag gwastraffu amser ar waith gweinyddol bywyd.
Bydd yn cael ei lansio gyntaf ar ffurf "beta cyhoeddus", sy'n golygu bod gwaith helaeth yn dal i fynd rhagddo ar y dechnoleg, ond bydd yn caniatáu i'r cyhoedd adeiladu'r ap o amgylch eu hamgylchiadau personol, digwyddiadau bywyd a gwasanaethau.
Bydd pobl yn gallu dewis pa bynciau i'w blaenoriaethu ar eu tudalen gartref, yn seiliedig ar ba wasanaethau llywodraeth sydd bwysicaf iddyn nhw, boed yn 'ofal', 'teithio' neu 'fusnes'. Bydd tudalen gartref wedyn yn gadael i bobl gael mynediad i'r gwasanaethau hyn ar unwaith, yn hytrach na gorfod chwilota'r rhyngrwyd bob tro, fel y gallant gael gwybodaeth, gofyn am gymorth neu newid eu manylion gyda'r gwasanaeth llywodraeth cywir yn rhwydd.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Public services put in your pocket with trial GOV.UK App launched today - GOV.UK.