Mae’r rhai sy’n gwneud arian ychwanegol o greu crefftau Nadoligaidd, o gadw stondinau marchnad tymhorol, neu trwy werthu eitemau Nadoligaidd yn cael eu hannog i wirio a oes angen iddyn nhw hysbysu Cyllid a Thollau EF (CThEF) am eu henillion.
Gyda thymor yr ŵyl yn prysur nesáu, mae ymgyrch Help for Hustles CThEF yn atgoffa unrhyw un sy'n ennill incwm ychwanegol o weithgareddau fel gwneud addurniadau Nadolig, ailgylchu dodrefn, neu gynnal stondin marchnad, y bydd angen iddyn nhw ddweud wrth CThEF os ydyn nhw’n ennill mwy na £1,000.
Mae canllawiau'r ymgyrch yn egluro'r gwahaniaeth pwysig rhwng tacluso cartrefi trwy werthu eiddo personol diangen, rhywbeth nad oes angen dweud wrth CThEF amdano fel arfer, a gweithgareddau masnachol a allai fod yn drethadwy e.e. gwneud eitemau i'w gwerthu er elw.
Bydd angen i unrhyw un a enillodd fwy na £1,000 o waith ychwanegol yn y flwyddyn dreth 2024 i 2025 gofrestru ar gyfer gwneud Hunanasesiad fel unig fasnachwr, gan ffeilio’u ffurflen a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2026. Mae'r trothwy hwn o £1,000 yn berthnasol i gyfanswm yr holl weithgareddau masnachol, felly byddai angen i rywun sy'n ennill £600 trwy werthu crefftau a £500 trwy greu cynnwys gofrestru gan fod eu cyfanswm yn fwy na £1,000.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Christmas crafters urged to check tax rules - GOV.UK.