Cyfarfu'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, â Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru a Chadeirydd Menywod mewn Rheilffyrdd, yn gynharach y mis hwn, i glywed am y gwaith sy'n cael ei wneud i recriwtio a chadw menywod yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru.
Daw'r cyfarfod wrth i ffigyrau barhau i ddangos bod menywod yn cael eu tangynrychioli yn y sector.
Mae ymchwil Trafnidiaeth Cymru wedi canfod mai dim ond 20% o weithlu Trafnidiaeth a Chyfathrebu Cymru sy'n fenywod, gan ostwng i ddim ond 6.7% o yrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth a pheiriannau symudol, gyda chynrychiolaeth arbennig o isel ymhlith gyrwyr, peirianwyr a staff cynnal a chadw cerbydau.
Er hynny mae arwyddion o gynnydd. Cynyddodd nifer y menywod sy'n gyrru trenau i Trafnidiaeth Cymru o 54 i 76 rhwng 2022 a 2023, gan godi cynrychiolaeth menywod ymhlith gyrwyr o 7.4% i 9.3%, ac mae cyfran y menywod ymhlith prentisiaid newydd Trafnidiaeth Cymru wedi codi o 14.3% i 42.9% dros yr un cyfnod.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon:Annog menywod i ymuno â'r sector trafnidiaeth yng Nghymru | LLYW.CYMRU.