Newyddion

Ailagor Pont Menai yn llawn

Menai Bridge

Bydd Pont Menai yn ailagor yn llawn i draffig dwyffordd o 7am ddydd Gwener, 24 Hydref 2025 ar ôl i waith dros dro i fynd i'r afael â phroblem gyda nifer o folltau ar y bont gael ei gwblhau'n llwyddiannus.

Bydd y bont yn agor gyda therfyn pwysau o 7.5 tunnell ar waith, gan fod peirianwyr wedi cynghori y gellir codi'r terfyn pwysau 3 tunnell flaenorol nawr ar ôl i'r bont gael ei hatgyfnerthu ymhellach.

Bydd y gwaith dros dro yn cael ei archwilio bob dydd Mercher am 10am a bydd y traffig yn cael ei reoli ar y bont gydag arwyddion aros/mynd

Mae'r ailagor yn cyd-fynd â ffair Borth, a bydd yn caniatáu i draffig deithio i'r ynys ac oddi yno ar y ddwy bont yn ystod y digwyddiad poblogaidd hwn.

Bydd gwaith ar ddatrysiad parhaol i'r broblem hon yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn hwyluso gwaith Cam 2. Darperir diweddariadau pellach, gan gynnwys ar hynt rhaglen waith Cam 2, yn fuan.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Ailagor Pont Menai yn llawn | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.