
Mae Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn agor ail rownd o geisiadau i brofi technolegau meddygol Deallusrwydd Artiffisial (AI) arloesol ar ôl cyfnod peilot llwyddiannus.
Bydd hwb o £1 miliwn ar gyfer rhaglen arloesol AI Airlock MHRA yn ehangu mynediad i faes profi rheoleiddiol cyntaf o'i fath lle gall cwmnïau weithio'n uniongyrchol gyda rheoleiddwyr i brofi dyfeisiau meddygol newydd wedi’u pweru gan AI yn ddiogel ac archwilio sut i ddod â nhw at gleifion yn gyflymach, trwy reoliadau symlach.
Mae ceisiadau ar gyfer ail rownd y rhaglen bellach ar agor ac mae’n dilyn cyfnod peilot llwyddiannus a welodd bedair technoleg AI arloesol, gan gynnwys meddalwedd a allai helpu meddygon i greu cynlluniau triniaeth canser wedi'u personoli, ac offeryn i helpu ysbytai, datblygwyr AI, a rheoleiddwyr i fonitro perfformiad AI mewn amser real, yn cael eu profi mewn amgylchedd 'blwch tywod' rheoleiddiol.
Yn debyg i siambrau aerglos (airlock) ar long ofod, mae'r man profi 'blwch tywod' yn creu ffin rhwng AI arbrofol a thechnoleg feddygol wedi’i chymeradwyo’n llawn a ddefnyddir yn y byd go iawn.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 14 Gorffennaf 2025.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: AI Airlock Phase 2 application - GOV.UK