
Mae The Lilac Review yn adolygiad annibynnol, sy'n mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb sy'n wynebu sylfaenwyr Anabl ac yn anelu at gynyddu cyfleoedd entrepreneuraidd ledled y DU.
Dan arweiniad Small Business Britain, lansiwyd The Lilac Review ym mis Chwefror 2024 i nodi'r rhwystrau sy'n wynebu sylfaenwyr anabl yn y DU a bydd yn datblygu cynllun gweithredu i'w dileu.
Mae Adroddiad Terfynol The Lilac Review a lansiwyd ar 12 Mai 2025, yn uchafbwynt 18 mis o waith i ddeall a dileu'r rhwystrau systemig sy'n wynebu entrepreneuriaid anabl yn y DU.
Ers ei lansio, mae The Lilac Review wedi tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu sylfaenwyr Anabl, sy'n ffurfio 25% o berchnogion busnesau bach ond sy’n parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol a heb wasanaeth digonol ym meysydd cyllid, caffael, cymorth busnes a rhwydweithiau.
Mae'r adroddiad terfynol hwn yn nodi argymhellion beiddgar, ymarferol y dylid eu gweithredu ar frys i sicrhau y gall entrepreneuriaid anabl lwyddo, nid er gwaethaf y system, ond oherwydd ei bod yn gweithio iddyn nhw.
Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys y Llywodraeth, gwasanaethau ariannol, cynghorau lleol, ac ecosystemau cymorth busnes, gyda galwad i ymgorffori hygyrchedd, ymddiriedaeth a phrofiad byw ym mhob lefel o entrepreneuriaeth.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: The Lilac Review
Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru: Datblygwyd y canllaw hwn gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n rhoi gwybodaeth a chyngor ymarferol i sefydliadau cymorth busnes a chynghorwyr ar y ffordd orau o ymgysylltu â phobl anabl a chefnogi pobl anabl sy'n dechrau, yn cynnal neu’n tyfu eu busnes yng Nghymru.