Newyddion

Adrodd am wybodaeth Talu Wrth Ennill mewn amser real pan gaiff taliadau eu gwneud yn gynnar adeg y Nadolig 2025

Warehouse worker wearing a Christmas hat

Mae rhai cyflogwyr yn talu eu cyflogeion yn gynharach na’r arfer dros gyfnod y Nadolig. Gall hyn fod am nifer o resymau; er enghraifft, yn ystod cyfnod y Nadolig, gallai’r busnes gau, sy’n golygu bod angen talu gweithwyr yn gynharach na’r arfer.

Os ydych chi yn talu’n gynnar dros gyfnod y Nadolig, rhowch wybod beth yw eich diwrnod cyflog arferol neu gontractiol fel y dyddiad talu ar eich Cyflwyniad Taliad Llawn (FPS), a sicrhau bod y FPS yn cael ei gyflwyno ar y dyddiad hwn, neu’n gynharach.

Er enghraifft, os ydych yn talu ar 19 Rhagfyr  ond eich dyddiad talu arferol yw 31 Rhagfyr, rhowch wybod am y dyddiad talu ar 31 Rhagfyr. Yn yr enghraifft hon, byddai angen anfon y FPS ar neu cyn 31 Rhagfyr.

Bydd gwneud hyn yn helpu i ddiogelu cymhwysedd eich gweithwyr ar gyfer budd-daliadau seiliedig ar incwm fel Credyd Cynhwysol, gan y gallai taliad cynnar effeithio ar hawliau nawr ac yn y dyfodol.

Nid yw’r brif rwymedigaeth adrodd Talu Wrth Ennill ar gyfer cyflogwyr yn cael ei heffeithio gan yr eithriad hwn, a rhaid i chi adrodd am daliadau o hyd ar y dyddiad y telir y cyflogai, neu’n gynharach.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Rhifyn mis Hydref 2025 o Fwletin y Cyflogwr - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.