Mae Llywodraeth y DU yn lansio adolygiad annibynnol o'r fethodoleg brisio a ddefnyddir i asesu tafarndai a gwestai at ddibenion ardrethi busnes.
Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw’r dulliau prisio presennol yn parhau i fod yn briodol ac yn nodi unrhyw gyfleoedd i wella.
Ochr yn ochr â lansio'r adolygiad, mae Llywodraeth y DU yn gwahodd barn a thystiolaeth gan fusnesau, cyrff cynrychioliadol, gweithwyr proffesiynol gwerthuso a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb drwy Alwad am Dystiolaeth. Bydd ymatebion yn helpu i lywio canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad.
Daw’r alwad hon am dystiolaeth i ben am 11:59pm ar 16 Hydref 2026.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Valuation Methodology Review for Pubs and Hotels - GOV.UK.