Newyddion

Adeiladu'r dyfodol i ddiogelu'r gorffennol, Cymru yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o seiri maen

Cadw stonemason

Mae gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, yn chwilio am dri saer maen i’w hyfforddi ac i ymuno â’r tîm o seiri maen proffesiynol.

Gyda thua thraean adeiladau Cymru wedi'u hadeiladu o ddeunyddiau traddodiadol, carreg, brics neu fframiau pren cyn 1919, ni fu erioed cymaint o alw am seiri maen crefftus a chadwraethwyr proffesiynol.

Mae'r adeiladau hyn yn llawn cymeriad ac yn creu naws trefi a strydoedd ledled Cymru, ond mae'n frwydr gynyddol cael hyd i grefftwyr sydd â'r arbenigedd i ofalu amdanynt.

Bydd y tair swydd dan hyfforddiant yn gyfle unigryw i recriwtio tri saer maen i weithio law yn llaw â Cadwraeth Cymru, sef tîm crefftwyr treftadaeth proffesiynol mewnol Cadw. Bydd y dysgwyr yn dilyn rhaglen hyfforddi dwy flynedd fydd yn arwain at gymhwyster NVQ3 mewn Gwaith Maen Treftadaeth, gan ennill profiad ymarferol wrth gael eu mentora gan seiri maen cadwraeth arbenigol.

Yn ogystal â hyfforddiant ymarferol, bydd y dysgwyr yn cael cyfle i weithio gyda'r cyhoedd a chymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n arddangos sgiliau treftadaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Tachwedd 2025 ac mae'r manylion i'w gweld ar wefan Cadw: Swyddi Gwag.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.