Ydych chi eisiau magu hyder wrth ddefnyddio offer digidol i reoli ac i ehangu eich busnes?
Mae’r academi business.connected newydd hon yn gyfle gwych i’r rhai sydd ond megis dechrau ar eu taith ym myd busnes yn ogystal â’r rhai sydd eisiau ehangu eu presenoldeb ar y we. Bydd yn cynnwys tair sesiwn, a byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r offer a’r strategaethau digidol sy’n hollbwysig wrth lansio a datblygu busnes llwyddiannus yn y byd sydd ohoni.
Mae’r sesiynau hyn yn cael eu pweru gan Vodafone ac yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth ag Enterprise Nation. Maen nhw’n rhan o'r ymgyrch business.connected ehangach.
Bydd gofyn i chi gwblhau tri digwyddiad (bydd rhaid i chi ddod i bob un ohonyn nhw):
- Dydd Iau 6 Tachwedd 2025: Digwyddiad dysgu wyneb yn wyneb rhwng 10am a 3.30pm yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd arbenigwyr gwadd ac entrepreneuriaid ysbrydoledig yn rhannu gwybodaeth a chyngor ar nifer o bynciau, gan gynnwys: dod o hyd i gwsmeriaid, brandio digidol, cyfryngau cymdeithasol, offer deallusrwydd artiffisial (AI), a llawer mwy.
- Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025: Gweminar ar-lein rhwng 10:00am a 12:00. Dyma sesiwn dan arweiniad arbenigwyr a fydd yn trin ac yn trafod egwyddorion sylfaenol ehangu busnes ar y we, gan gynnwys sicrhau amlygrwydd a throsi cwsmeriaid.
- Dydd Sadwrn 22 Tachwedd 2025: Gweminar ar-lein rhwng 10:00am a 12:00. Bydd y sesiwn hon dan arweiniad arbenigwyr yn eich dysgu sut i feistroli’r grefft o farchnata ar e-bost. Cewch ddysgu pam mai’r e-bost yw un o ddulliau mwyaf pwerus eich pecyn marchnata.
Dewch i ddysgu sut i roi hwb i'ch presenoldeb ar-lein a sut i fabwysiadu offer a fydd yn gwneud i'ch busnes redeg yn fwy llyfn. Mae'r sesiynau hyn wedi'u dylunio i'ch grymuso trwy roi cefnogaeth ymarferol, heb jargon. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim, ond dim ond hyn a hyn o leoedd sydd – archebwch eich lle heddiw!
Gwasaneth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS): Cyrsiau digidol sydd wedi cael eu creu gan arbenigwyr pwnc Busnes Cymru i’ch helpu i sefydlu a rhedeg busnes yn llwyddiannus.
Adnodd cymorth ar-lein yw BOSS a ddarperir gan Busnes Cymru. Cynnigir gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth cwbl annibynnol wedi'i ariannu'n llawn i unigolion a busnesau yng Nghymru. Trwy gofrestru ar gyfer cyfrif BOSS, bydd gennych fynediad unigryw at gyrsiau a ariennir yn llawn a grëwyd gan arbenigwyr i'w cwblhau yn eich amser eich hun. Gyda chyrsiau yn amrywio o gynllunio ariannol, lleihau carbon, gwella cynhyrchiant i recriwtio a datblygu staff: BOSS.