Newyddion

A yw eich busnes yn ymwneud â chyflawni cynllun tai yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro neu Abertawe?

construction workers

Mae rhai cynlluniau tai wedi cael eu hoedi wrth i Awdurdodau Lleol weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fodloni gofynion canllawiau cynllunio nitradau morol.

Darllenwch ymlaen os ydych chi'n meddwl y gallai eich busnes gael ei effeithio i ddarganfod beth allwch chi ei wneud. Y Camau Gweithredu a argymhellir yw:

  • Ymgysylltu â'ch cyfrifwyr/cynghorwyr ariannol penodedig i asesu effaith unrhyw oedi.
  • Cyfathrebu rheolaidd gyda'ch partneriaid cadwyn cyflenwi.
  • Adolygwch eich proffil gwerthwchiGymru i sicrhau hysbysiad am gontractau eraill sydd ar ddod, gan gynnwys hysbysiadau dyfarnu contractau a allai gynnig cyfleoedd busnes posibl.
  • Archwiliwch Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i nodi rhaglenni gwaith arfaethedig eraill y gallech gystadlu amdanynt.
  • Ymgysylltu â Thimau Datblygu Economaidd Lleol i archwilio'r opsiynau cymorth lleol sydd ar gael (gweler isod am wybodaeth gyswllt).

Os oes angen cymorth pellach ar eich busnes:

  • Cysylltwch a Busnes Cymru ar 03000 6 03000 (rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg) neu defnyddiwch y  ffurflen cysylltu â ni. Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfuniad o gymorth busnes ar-lein, dros y ffôn, gyda sawl busnes, ac unigol a fydd yn cael ei deilwra yn ôl yr angen.
  • Ymgysylltu â Thimau Datblygu Economaidd Lleol i archwilio'r opsiynau cymorth lleol sydd ar gael.

Er mwyn sicrhau bod gwaith datblygu yn ailddechrau cyn gynted â phosibl, a hynny mewn modd cynaliadwy, mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu Tasglu. Ewch i  LLYW.CYMRU am ragor o wybodaeth.

Mae gwybodaeth gyswllt ar gyfer pob Awdurdod Lleol ar gael isod:

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.