Newyddion

A allai eich busnes gweithgynhyrchu fod yn gymwys i gael gostyngiad yng nghost trydan?

Manufacturing

Mae Cynllun Cystadleurwydd Diwydiannol Prydain (BICS) yn helpu rhai cwmnïau gweithgynhyrchu i leihau eu costau trydan.

Gallwch ddarllen y canllawiau, sy'n berthnasol i Gymru, yr Alban a Lloegr, i gael manylion llawn am y cynllun a sut mae'n gweithio.

Mae gostyngiadau trydan yn cael eu cyfrifo ar wahân ar gyfer pob safle gweithgynhyrchu. Os yw safle’n gymwys, dylai gael gostyngiad ar y trydan a ddefnyddia i gynhyrchu rhai cynhyrchion penodol ar y safle.

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld a ydych yn gymwys, dewiswch y ddolen ganlynol: Check if your manufacturing site(s) should be eligible for an electricity discount - British Industrial Competitiveness Scheme (BICS) - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.