Newyddion

50 mlynedd o bartneriaeth arloesi sy'n torri tir newydd

Cerebra - Carmarthen-based charity.

Mae un o fentrau mwyaf hirhoedlog y DU sy'n cysylltu busnesau a sefydliadau â'r byd academaidd yn dathlu 50 mlynedd o ddarparu gwerth i economi Cymru.

Mae rhaglen y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn ysgogi twf ac arloesedd trwy ddatrys heriau go iawn sy'n wynebu busnesau, gan wneud hynny mewn partneriaeth ag academyddion ledled Cymru a'r DU. Mae'r partneriaethau sy'n cael eu meithrin yn hoelio'u sylw ar greu atebion sy'n arwain at arloesedd, twf economaidd a manteision cymdeithasol neu amgylcheddol, gan esgor ar newidiadau sy'n gwella bywydau pobl.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig, mae prosiectau KTP Cymru wedi arwain at 78 o swyddi newydd, a buddsoddiad o £6.5 miliwn mewn arloesi – gan gynnwys £1.8 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru, sy'n rhedeg y cynllun mewn partneriaeth ag Innovate UK.

Amcangyfrifir bod pob punt o fuddsoddiad cyhoeddus wedi creu hyd at £5.50 o fuddion economaidd net i economi Cymru.

Ar draws y DU, amcangyfrifir bod hyd at £2.3 biliwn wedi'u hychwanegu at yr economi rhwng 2010 a 2020, diolch i'r gwaith arloesi a wnaed ar y cyd drwy'r KTPs.

Mae'r cynllun hefyd yn helpu busnesau i fanteisio ar sgiliau newydd drwy ddenu graddedigion dawnus i weithio ar y prosiectau.

Bu'r elusen ddielw, Cerebra, yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd mewn KTP diweddar. Mae'r elusen, sydd â'i phencadlys yng Nghaerfyrddin, yn helpu i wella bywydau plant ag anhwylderau ar yr ymennydd drwy helpu eu teuluoedd â'u hanghenion iechyd, addysg a chymdeithasol hirdymor. 

Datblygodd y KTP hwnnw ddull seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial o wella effeithiolrwydd ymgyrchoedd marchnata Cerebra, ac o ddenu mwy o roddion i'r elusen.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: 50 mlynedd o bartneriaeth arloesi sy'n torri tir newydd | LLYW.CYMRU

Gall arloesi helpu eich busnes i ddod yn fwy cystadleuol, gall roi hwb i’w werthiant a’i helpu i sicrhau marchnadoedd newydd.

Mae ein parth busnes ac arloesi wedi'i gynllunio fel y gallwch chi ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi. Gallwn eich helpu i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu (R&D), cyflwyno technegau a thechnolegau newydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu, diogelu eich asedau drwy hawliau eiddo deallusol (IP), a chael mynediad at gyfleusterau ac arbenigedd mewn prifysgolion a cholegau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.