
Mae buddsoddiad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru mewn busnesau sy'n dod i gyfanswm o dros £600 miliwn wedi creu neu ddiogelu mwy na 40,000 o swyddi ledled Cymru yn ystod tymor y llywodraeth hon.
Fel rhan o'r £600 miliwn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans heddiw yn cyhoeddi bron i £10 miliwn i gefnogi bron i 700 o swyddi mewn tri busnes ledled Cymru.
Drwy fuddsoddi mewn benthyciadau, ecwiti a grantiau, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd sylweddol wrth gyflawni ei hymrwymiad i adeiladu economi gryfach, tecach a gwyrddach.
Mae Boccard UK Ltd, sydd wedi'i leoli yng ngogledd Cymru, yn cael Cyllid Dyfodol yr Economi o £1.2 miliwn i symud i uned newydd sylweddol a chynyddu'n sylweddol ei gapasiti gweithgynhyrchu sydd wedi'i ddigideiddio'n llawn.
Bydd hyn yn helpu'r cwmni, sydd â'i bencadlys yn Ffrainc, i gadw ei safle blaenllaw yn y farchnad yn y sector niwclear yng Nghymru, gan ddiogelu 59 o swyddi a chreu dros 150 o swyddi newydd.
Mae buddsoddiad o £8 miliwn gan Lywodraeth Cymru hefyd yn diogelu 325 o swyddi yn WEPA, ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae'n rhan o fuddsoddiad sylweddol gan y cwmni, sy'n arbenigo mewn cynhyrchu a dosbarthu papur hylendid cynaliadwy a datrysiadau hylendid arloesol, i leihau'r defnydd o ynni yn ei safle Maesteg a rhoi hwb i'r capasiti cynhyrchu.
Mae cyllid pellach o £540,000 hefyd yn helpu i ddod â hen ffatri, a gaeodd yn 2022 gyda 60 o weithwyr yn colli eu swyddi, yn ôl i ddefnydd yng Nghwm Clydach, ger Tonypandy.
Bydd Coppice, gwneuthurwr rhyngwladol a chyflenwr pecynwaith i'r diwydiant bwyd yn creu 83 o swyddi yn y gweithrediad newydd, gyda'r nifer hwn o bosibl yn cynyddu i 150 yn y pum mlynedd nesaf
Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: 40,000 o swyddi wedi cael cymorth gwerth £600 miliwn yn ystod tymor y llywodraeth hon | LLYW.CYMRU