Bydd mwy o bobl ifanc yng Nghymru yn gymwys i gael y Lwfans Cynhaliaeth Addysg o fis Medi ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd o leiaf 1,500 yn fwy o bobl ifanc 16 i 18 oed yn gallu hawlio'r lwfans o £40 yr wythnos, yn dilyn newidiadau i'r meini prawf cymhwysedd y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn helpu pobl ifanc i dalu am gostau teithio, prydau bwyd, a deunyddiau astudio. Ei nod yw cael gwared ar rwystrau ariannol i alluogi pobl ifanc i barhau â'u haddysg. Ar hyn o bryd mae dros 18,000 o fyfyrwyr yng Nghymru yn cael y Lwfans.
O fis Medi 2026 ymlaen, bydd trothwyon incwm aelwydydd ag un dibynnydd yn codi o £23,400 i £24,570, ac o £25,974 i £27,273 ar gyfer aelwydydd sydd â dau neu fwy o ddibynyddion.
Bydd modd gwneud cais am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar 27 Ebrill 2026.
Gall dysgwyr wirio p'un a ydynt yn gymwys ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, neu siarad â'u hysgol neu eu coleg am help gyda'u cais.
P'un a ydych am helpu eich gweithwyr i ddysgu sgiliau newydd a fydd yn fuddiol i'ch busnes neu ychwanegu talent newydd i'ch tîm, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig llawer o raglenni drwy'r a all gefnogi eich anghenion o ran sgiliau, hyfforddiant a recriwtio: Yn Gefn i Chi | Busnes Cymru.