Mae cwmni prosesu plastig blaenllaw yn creu 100 o swyddi newydd yn Ne Cymru ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at leihau ôl troed carbon Cymru.
Dyfarnwyd cymorth gan Lywodraeth Cymru i J & A Young (Leicester) Ltd, a elwir yn Jayplas, yn 2023 i sefydlu gwaith ailbrosesu plastig yn hen ffatri Toyoda Gosei yng Ngorseinon, Abertawe.
Ac ail safle yn Ystâd Ddiwydiannol Tafarnaubach, Tredegar, gyda dros 100 o swyddi i'w creu ar draws y ddau safle erbyn mis Mawrth 2028, pan ddisgwylir i’r ddau safle fod yn gwbl weithredol.
Bydd y cymorth hwn yn caniatáu i'r cwmni fwy na dyblu capasiti ailbrosesu Cymru ar gyfer plastig wedi'i ailgylchu, gydag allbwn o'r ddau safle yn gallu prosesu o leiaf 100,000 tunnell o blastig meddal a chaled wedi'i ailgylchu y flwyddyn, gan roi hwb i'r economi gylchol yng Nghymru.
Bydd yn cyfrannu at leihau ôl troed carbon Cymru tua 150,000 tunnell y flwyddyn – sy'n cyfateb i dynnu 120,000 o geir oddi ar y ffordd – gan wneud cyfraniad sylweddol tuag at allyriadau sero wastraff a sero net erbyn 2050.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: 100 o swyddi newydd a hwb sylweddol i leihau carbon wrth ehangu cwmni plastig | LLYW.CYMRU.