Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach unwaith eto eleni yn tynnu sylw at 100 o fusnesau bach, un y diwrnod am y 100 diwrnod sy’n arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, sy’n cael ei gynnal eleni ar 5 Rhagfyr 2026.
Dros y pedair blynedd ar ddeg diwethaf, mae’r 100 wedi cael sylw nid yn unig ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn y wasg leol a chenedlaethol, maent hefyd wedi ymuno â thîm Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn Llundain mewn derbyniadau yn Stryd Downing ac yn y Trysorlys gyda Changhellor y Trysorlys.
Bydd y ceisiadau’n cau ddydd 30 Mehefin 2026.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Small Business Saturday UK | Another year making a Big Difference!