Yng Nghymru

Mynediad at Gyllid Allforio i Allforwyr

Mae recriwtio ar agor nawr!
Math o ddigwyddiad:
In-Wales
Dyddiad ac amser:
-
Dyddiad cau:
13 Hydref 2026
Lleoliad:
Cae Criced Morgannwg, Caerdydd, CF11 9XR

Event overview

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad Cyllid Allforio mewn partneriaeth ag arbenigwyr blaenllaw ym maes cyllid allforio, i helpu busnesau i ddeall y cyllid, yr opsiynau ariannu a'r cymorth sydd ar gael i hybu eu twf ac uchelgeisiau allforio.

Ymunwch â ni i glywed gan banel o arbenigwyr o Fanc Datblygu Cymru, UK Export Finance, Atradius, Caspian Partners a chynrychiolwyr o fanciau blaenllaw.

Beth fyddaf yn ei gael o'r digwyddiad hwn?

Drwy fynd i’r digwyddiad hwn, byddwch yn cael gwybodaeth werthfawr am yr opsiynau cyllid allforio, cyfleoedd ariannu a chymorth arbenigol sydd ar gael i helpu eich busnes i dyfu'n rhyngwladol ac i fynd i mewn i farchnadoedd newydd yn hyderus.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn un-i-un gydag arbenigwyr cyllid allforio yn dilyn y seminar. Bydd y sesiynau preifat hyn yn eich galluogi i barhau â'r drafodaeth, archwilio materion sy'n berthnasol i'ch busnes, a gofyn cwestiynau mwy penodol yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol.

Pwy ddylai fynychu?

  • Allforwyr newydd
  • Allforwyr presennol
  • Busnesau sydd am ddeall yr opsiynau cyllid ac ariannu ar gyfer allforio yn well

 

How to register

Mae recriwtio ar agor nawr!

Book online

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.