Cefnogi Busnesau yng Nghymru
Gyda chynghorwyr busnes ymroddedig wrth law, siaradwch gyda Busnes Cymru heddiw i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch
Gyda chynghorwyr busnes ymroddedig wrth law, siaradwch gyda Busnes Cymru heddiw i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Boed yr amcan yn sefydlu busnes,neu i fynd â'r busnes i'r lefel nesaf, gallwn helpu gyda'n hamrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi.
Rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau busnes, gweithdai, seminarau a dosbarthiadau meistr ar draws Cymru. Edrychwch ar ba ddigwyddiadau y dymunwch fynychu isod.
Os ydych yn entrepreneur uchelgeisiol sydd ag angen cefnogaeth i gymryd y cam cyntaf hwnnw, neu'n berchennog busnes sy'n chwilio am gyfarwyddyd i dyfu eich busnes, mae Busnes Cymru yma i helpu.
Mae ein tîm o gynghorwyr busnes talentog ac ymroddedig wrth law i'ch helpu i gyflawni eich amcanion busnes. Boed yn gefnogi creu cynllun busnes manwl neu geisio sicrhau cymorth ariannol, gallwn ddarparu'r holl wybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd sydd ei angen arnoch.
Y cwbl sydd yn rhaid i chi wneud yw cysylltu â ni, trafod eich uchelgeisiau busnes gyda'n llinell gymorth, ac fe'ch rhoddwn mewn cysylltiad â'n tîm cefnogi.
Cymerwch y cam cyntaf hollbwysig hwnnw wrth greu eich cyfrif aelodaeth Busnes Cymru am ddim. Cewch fynediad ar unwaith at eich proffil pencadlys busnes eich hun sy'n darparu rhestrau digwyddiad busnes pwrpasol a newyddion yn eich ardal, a llawer o nodweddion gwych eraill.
Bydd cael eich aelodaeth eich hun hefyd yn caniatáu i chi greu negeseuon a safio'ch chwiliadau cyllid gan ddefnyddio ein Lleolwr Cyllid - cronfa ddata am ddim o ddewisiadau cyllid sydd ar gael ar gyfer eich busnes.
Bydd cael eich aelodaeth eich hun hefyd yn caniatáu i chi greu negeseuon a safio'ch chwiliadau cyllid gan ddefnyddio ein Lleolwr Cyllid - cronfa ddata am ddim o ddewisiadau cyllid sydd ar gael ar gyfer eich busnes.
A, bydd gennych y dewis i gyflwyno pyst blog a rhwydweithio gyda phobl busnes o anian cyffelyb ar draws Cymru, gan rannu gwybodaeth a chyngor.
Mae Busnes Cymru hefyd yn cynnal ei gyfeirlyfr busnes ei hun a byddwch yn gallu creu eich rhestriad busnes eich hun i wella'ch amlygrwydd ar-lein.
Astudiaeth achos
Tynrhyd Retreat has been in Sian Price’s family for five generations. Sian moved to Tynrhyd with husband Gareth in 2004 to what was an old derelict farmyard.
Established in 2014, VehoGroup is a West Wales technology company, which designs innovative digital solutions to ensure efficiency and compliance within the transport and logistics sector.
Welshpool-based Powysland Garage is currently owned by Anthony Wright who took over the company in 2016 and re-opened the garage later in the year.