BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ein Mentoriaid

Hidlo yn ôl

Sector
Ardal

251 canlyniad

Busnes: WOOD&WOOD Design Consultants
Wedi iddo gwblhau blwyddyn Sylfaen yng Ngholeg Celf Casnewydd, dechreuodd James ar ei yrfa ym Mehefin 1985 yn gweithio yn Brian Hughes Design ym Mrynbuga yn swyddfeydd Sector Design Group.
Busnes: ?
Ar ôl bod yn y Brifysgol, ymunais ag RHM Foods ar raglen hyfforddeion graddedig, ac yn ddiweddarach gweithiais fel Rheolwr Gweithdrefnau iddynt mewn Ffatri a oedd yn cyflogi 250 o bobl.
Busnes: Always Potential
Fel hyfforddwr proffesiynol cymwys, rwy’n mwynhau creu amgylchedd ble mae pobl yn dangos mwy o’r gorau o’u hunain nag y byddent erioed wedi ei ddychmygu.
Busnes: Steppes coaching & Development
Mae Jane Baker yn hyfforddwr weithredol cymwys sy’n arbenigo mewn gwella perfformiad sefydliadol ac unigolyn ar gyfer unigolion a thimau, â dealltwriaeth eang o weithio o fewn y sector masnachol yng Nghymru.
Jane Baker
Busnes: Azool Media Ltd
Jane Davies ydw i, sylfaenydd Azool Media a pherchennog busnes gyda thros 21 mlynedd o brofiad o redeg fy musnes fy hun sy’n seiliedig ar gynnyrch. Mae adeiladu a chynnal busnes dros ddau ddegawd wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr imi i’r hyn mae’n ei gymryd i greu sylfeini cryf, addasu i newid, a thyfu busnes llwyddiannus a gwydn.
Ochr yn ochr â rhedeg fy musnes fy hun, rwyf wedi datblygu arbenigedd gref mewn marchnata ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a gwelededd digidol i fusnesau bach. Rwy’n arbenigo mewn helpu entrepreneuriaid i ddeall sut i ddefnyddio platfformau fel Facebook, Instagram, Pinterest a gwefannau’n effeithiol i hyrwyddo eu busnes, gwella gwelededd a chysylltu â’u cynulleidfa. Mae fy mhrofiad yn cynnwys cynllunio cynnwys, creu postiadau difyr, defnyddio ‘stories a reels’, deall tueddiadau a helpu busnesau i ddatblygu presenoldeb ar-lein cyson a strategol.
Un o fy mhrif gryfderau yw fy ngallu i symleiddio cyfryngau cymdeithasol a strategaeth fusnes fel ei bod yn teimlo’n hylaw yn hytrach na llethol. Mae nifer o berchnogion busnes bach yn gwybod y dylent fod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ond yn teimlo’n ansicr ynghylch lle i ddechrau neu sut i’w defnyddio’n effeithiol. Trwy fentora, rwy’n helpu i symleiddio hyn yn gamau clir, ymarferol, sy’n meithrin hyder a sgiliau.
Mae fy null mentora’n gefnogol, yn ymarferol ac wedi’i deilwra ar gyfer yr unigolyn. Rwy’n credu bod pob busnes yn unigryw, ac mae’r gefnogaeth fwyaf effeithiol yn dod o ddeall amcanion, heriau a chamau penodol twf pob entrepreneur. Rwy’n canolbwyntio ar helpu mentorai i feithrin sylfeini busnes cryf, datblygu hyder yn eu marchnata a chreu strategaethau sy’n gynaliadwy yn y tymor hir.
Mae fy mhrofiad busnes byd go iawn, ynghyd â fy ngwybodaeth o’r cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol, yn caniatáu imi ddarparu canllawiau ymarferol y gall entrepreneuriaid eu cymhwyso’n uniongyrchol i’w busnes eu hunain. Rwy’n frwdfrydig dros helpu perchnogion busnes bach i dyfu eu hyder, cynyddu eu gwelededd ac adeiladu busnesau sy’n llwyddo.
None
Busnes: LHP Accountants Ltd
Rwy’n gyfrifydd profiadol wedi fy lleoli yn Sir Gaerfyrddin, ac rwy’n helpu a chefnogi cwmnïau gyda’u hanghenion ariannol a threthiant.
Busnes: Gwasanaethau Ymgyghori Busnes OFST
Yn arweinydd profiadol a llwyddiannus, rwyf yn mwynhau heriau parhaus, ac yn ddiweddar rwyf wedi sefydlu fy musnes hyfforddiant ac ymgynghori fy hun - wedi tua 35 mlynedd mewn busnes, yn arwain timau at nodau llwyddiannus.
Busnes: Rheoli Credyd Recriwtio a Hyfforddiant DCS
Rwyf wedi gweithio ym maes Rheoli Credyd ers oeddwn i’n 19 mlwydd oed. Yn 2006, symudais i Ben-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru i weithio fel Ymgynghorydd Rheoli Credyd i gwmni yng Nghaerfyrddin, sef Tŷ Arwerthu Da Byw BJP. Roedden nhw mewn ychydig o ddyled, felly gofynnodd PWC i Hays Recruitment gyflenwi rhywun. Roedd arnyn nhw angen rhywun i gasglu’r holl arian oedd yn ddyledus iddyn nhw, a sefydlu gweithdrefnau a phrosesau newydd.

Ym mis Ionawr 2007, penderfynais sefydlu fy musnes fy hun, Debt & Credit Solutions Ltd. Yn dilyn fy mhrofiad o gynnig gwasanaethau Gweithiwr Proffesiynol Credyd i BJP, roeddwn i’n meddwl - galla i wneud hyn!

Ionawr 2007 - Perchennog DCS Credit Management Recruitment & Training

DCS Recruitment, Swyddi Credyd, Swyddi Casglu, Swyddi Gorfodi, Swyddi Risg, Swyddi Cyfreithiol, Technoleg Gyllid yn Ewrop (a’r DU) #SwyddiCredydDCS #SwyddiCredyd #SwyddiGorfodi #SwyddiCyfreithiol #RecriwtioSwyddiCredyd
80,000 o ddilynwyr, yn cyflenwi Gweithwyr Proffesiynol Credyd ar bob lefel.



Set Sgiliau
Recriwtio
Gwerthiannau a Marchnata
Cyfrifon
Cyfryngau Cymdeithasol, LinkedIn
Casglu Dyledion
Rheoli

Rwyf hefyd yn berchen ar yr asiantaeth casglu dyledion leol www.debtcollectionwales.co.uk – y dudalen gyntaf yn google, yn cefnogi busnesau lleol ac yn sefydlu brand ffasiwn newydd, cyffrous www.pallisterclothing.co.uk gan weithio gyda fy nhîm cyfreithiol ar IP, nod masnach a brandio - y cyfan wedi’u cynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Busnes: PEPP Limited
Mae Jennifer Barnfield yn ymarferydd Meddylfryd Positif a Gweledigaethol arweiniol sy’n arbenigo mewn cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig fel ei gilydd.
Busnes: Jecca Blac
Yn 2017, sefydlais Jecca Blac, brand colur di-rywedd sy’n ceisio hyrwyddo cynwysoldeb mewn harddwch. Ers ei lansio, rydym wedi gwerthu dros 2 filiwn o unedau yn fyd-eang ac wedi creu partneriaethau â manwerthwyr mawr fel Superdrug a Walmart.

Rwyf hefyd wedi cael y fraint o gydweithio â brandiau blaenllaw fel L'Oréal a NatWest. A minnau ond yn 21 oed, rwyf wedi llwyddo i gael arian i sicrhau twf y brand, ac rwy'n parhau i annog arloesedd ac effaith yn y diwydiant harddwch.

Sgiliau Allweddol
Gwerthu rhwng busnesau (B2B)
Datblygu Cynnyrch
Gwerthu’n Uniongyrchol i'r Cwsmer (D2C)
Barod am Fuddsoddiad

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.