BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Jamie McGregor

?

Cysylltu gyda Jamie McGregor


Swyddogaeth:
Mentor
Sector:
Lleoliad:
Wales

Amdano

Ar ôl bod yn y Brifysgol, ymunais ag RHM Foods ar raglen hyfforddeion graddedig, ac yn ddiweddarach gweithiais fel Rheolwr Gweithdrefnau iddynt mewn Ffatri a oedd yn cyflogi 250 o bobl.

Symudais i weithio mewn cynhyrchu uwch-dechnoleg o fewn y diwydiant electronig i ddysgu popeth am dechnegau Gweithgynhyrchu Blaenllaw’r Byd a gweithgynhyrchu darbodus.

Arweiniodd hyn at yrfa yn ymestyn dros 16 mlynedd yn gweithio fel Ymgynghorydd Rheolaeth, gan arbenigo mewn Cadwyni Cyflenwi a Rheoli Prosiect.

Yna, cododd cyfle i mi ymuno â dau ffrind i fuddsoddi yn eu busnes (Newydd) gweithgynhyrchu bwyd a bod yn Gyfarwyddwr Cadwyn Gyflenwi iddynt. Fy nhasg gyntaf oedd adeiladu a gweithredu ffatri 1500 metr sgwar, ac ar ôl rhaglen hyfforddi gryno, trosglwyddo gweithdrefnau gweithgynhyrchu yn fewnol o’u gweithgynhyrchwr contract. Roedd y ffatri wastad yn gyfleuster gweithgynhyrchu BRC AA achrededig. Y prif lwyddiannau oedd system TG integredig lawn, y defnydd o MRP ar gyfer yr holl waith cynllunio a chaffael, a gostyngiad parhaus yng nghostau fesul uned y broses gweithgynhyrchu drwy fuddsoddi. Gwerthwyd y busnes yn 2018 ar adeg fy ymddeoliad.

Mae gennyf ddiddordeb mewn gwneud pethau’n gywir ac effeithlon. Yn yr un modd, rwy’n dibynnu’n llwyr ar ddata a dadansoddi i wneud penderfyniadau a chynhyrchu achosion busnes.

Gair i Gall

Os na allwch ei fesur ni allwch ei wella.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.