BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ein Mentoriaid

Hidlo yn ôl

Sector
Ardal

251 canlyniad

Busnes: Sales Geek North Wales Ltd
Rwy'n gweithio yn y maes uwch arwain gwerthiannau ers 25 mlynedd, yn rhyngwladol ac yn genedlaethol. Ar hyn o bryd, rwy'n helpu busnesau'n broffesiynol yng ngogledd Cymru a Chaer i ddatblygu eu busnesau gan ddefnyddio dulliau gwerthu o safon fyd-eang ac offer busnes. Mae gennyf brofiad helaeth o werthiannau B2B, ond gallaf weithio'n gyfforddus gyda busnesau B2C ac E-fasnach.
Busnes: Diogel Architecture
Adam yw’r arweinydd yn y cwmni ac mae’n arbenigwr ym maes dylunio adeiladu a chydlynu pob disgyblaeth. Mae wedi ymrwymo i genhadaeth Diogel i greu mannau preswyl addas ar gyfer y dyfodol sy’n cynnig ymarferoldeb hirdymor a steil arloesol. Yn bennaf, mae ganddo feddwl busnes a datblygwr, sy’n sicrhau bod pob cynllun yn rhoi’r gofynion ariannol yn gyntaf.
Busnes: Independent Business Advisor
Dros 20 mlynedd datblygais yrfa gref a chadarn gyda Xerox mewn uwch swyddi rheoli gwahanol. Mae gennyf set amrywiol o sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad helaeth y gallaf ei ddefnyddio i helpu eraill. Rwy’n weithiwr busnes proffesiynol brwdfrydig, profiadol, arweinydd hyderus a chyfathrebydd ysbrydoledig.
Busnes: Barsby Associates
Rwy’n uwch-weithredwr lletygarwch a thwristiaeth gyda phrofiad aml-safle, aml-frand a phrofiad o droi pethau o gwmpas. Rwy'n rhagori ar gynorthwyo gyda chreu timau o’r radd flaenaf â ffocws ar ansawdd a rhagori ar ddisgwyliadau: sicrhau elw i fuddsoddwyr ac adeiladu gwerth brandiau. Mae fy nghryfderau allweddol yn cynnwys: arweinyddiaeth bendant, sgiliau rheoli dadansoddol a strategol, cyfathrebu’n gryno ac yn onest mewn arddull difyr sy'n ennyn hyder.
Busnes: AM Projects
Cyn ymddeol (yn 2014) roeddwn yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni maint canolig yn Ne Cymru am 20+ o flynyddoedd ar ôl dilyn gyrfa mewn swyddi gweithgynhyrchu a rheoli gwerthiant, yn ogystal â swyddi cyllid uwch (cymwysedig FCMA) cyn hynny.
Busnes: Talkworks Training & Development Ltd.
Rwy'n Fentor, Hyfforddwr a Hwylusydd llwyddiannus.

Cyn cychwyn fy ngyrfa lawrydd, roeddwn yn Bennaeth Hyfforddi a Mentora i Lywodraeth Cymru.
Busnes: Shufflebottom Ltd
Mae Shufflebottom Ltd yn cynhyrchu adeiladau ffrâm ddur ar gyfer cleientiaid masnachol, amaethyddol a diwydiannol ledled y DU a thu hwnt. Dechreuwyd y busnes gan fy rhieni yn y 1970au. Ymunais yn swyddogol â'r busnes yn 2000 ar ôl cwblhau fy ngradd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Fy rôl swyddogol gyntaf oedd prynwr. Yn 2008, ynghyd â fy mrawd a'm Rheolwr Cyffredinol ar y pryd, prynais y busnes drwy Bryniant Rheoli ychydig cyn cwymp ariannol 2008. Roedd yr hyn a ddilynodd yn 5 mlynedd heriol, ond dim byd mor ddrwg â'r hyn oedd i ddod, sef marwolaeth ar y safle.

Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd, fe wnaethom addasu ac yn y pen draw tyfu'r busnes i fod yn weithgynhyrchydd adeiladau ffrâm ddur sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n arwain yn y farchnad, gan gyflogi ychydig dan 90 o bobol yn uniongyrchol ac is-gontractio i 30-40 arall yn dibynnu ar y llif gwaith. Fe wnaethom dyfu Shufflebottom o fusnes â throsiant o £12 miliwn i fusnes â throsiant o £25 miliwn sy'n fusnes proffidiol iawn.

Yn 2024 gwerthwyd Shufflebottom Ltd i Embrace Steel, a chefais fy mhenodi'n Rheolwr Gyfarwyddwr yn ddiweddarach y flwyddyn honno i gynorthwyo gyda'r cyfnod pontio. Ym mis Gorffennaf 2025, fe wnes i gamu'n ôl o'r busnes, er fy mod i'n dal i ddarparu cefnogaeth ar sail ymgynghori. Roedd y gwerthiant hwn yn golygu fy mod i wedi eistedd ar ddwy ochr y ffens, gan fy mod wedi prynu a gwerthu busnes teuluol, ac felly ryw'n gwybod yn uniongyrchol am yr heriau a ddaw yn sgil hyn.

Yn ogystal â'm rôl yn Shufflebottom Ltd, rwyf hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn RIDBA, cymdeithas fasnach ar gyfer gweithgynhyrchwyr fframiau, rwy'n eistedd ar fwrdd Gweithgynhyrchu Cymru, yn cynorthwyo llawer o elusennau a cyn rhentu eiddo masnachol a phreswyl.

O ran Addysg, yn ogystal â'm gradd Seicoleg yn 2000 enillais MBA yn 2024, a phwnc fy nhraethawd hir oedd Menopôs yn y gweithle. Yn ystod fy amser yn Shufflebottom, dilynais sawl cwrs yn cynnwys cyrsiau iechyd a diogelwch fel NEBOSH ac amryw o gymwysterau eraill.
Busnes: Jarron Consultancy Ltd
Mae’n anrhydedd cael fy newis i fod yn Fentor i Fusnes Cymru!
Rwyf wedi gweithio fel hyfforddwr arweinyddiaeth weithredol ac ymgynghorydd newid sefydliadol ers 1995. Cyn hynny, roeddwn yn arwain fy musnes llwyddiannus tu hwnt yn Efrog Newydd. Mae gennyf hanes o weithio gydag uwch arweinwyr i wella canlyniadau busnes yn fesuradwy.
Busnes: ARP Associates Ltd
Rwy’n gobeithio y gallaf eich helpu i fynd â’ch busnes i’r cam nesaf.
Er bod gennyf MBA a Diploma Lefel 7 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Gweithredol, rwy’n credu y byddwch yn canfod mai fy mhrofiad o redeg a thyfu sefydliadau mor amrywiol â chwmni gofal iechyd, cymdeithas masnach adeiladu ac ymgynghoriaeth, sydd o fudd ymarferol, gwirioneddol.
Alison Payne
Busnes: Copa Capital
Sefydlais SCS Group a’i arwain am dros 30 mlynedd, gan dyfu’r busnes o fod yn fusnes newydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd i fod yn gontractwr arbenigol blaenllaw yn y diwydiant adeiladu. O’n prif swyddfa yng Nghymru, bu i ni ehangu ledled y DU, sefydlu gweithrediadau gweithgynhyrchu yn Lloegr a swyddfa fawr yn Llundain cyn llwyddo i ddod yn rhan o grŵp peirianneg rhyngwladol. Mae gennyf MBA a phrofiad helaeth mewn strategaeth, arweinyddiaeth, arloesi a thwf busnes. Drwy gydol fy ngyrfa, bûm yn gyfrifol am strategaeth fusnes, arweinyddiaeth, gwerthiannau, marchnata, arloesi, caffaeliadau a datblygu sefydliadol. Mae gennyf brofiad helaeth o’r sectorau adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu a diddordeb penodol mewn ymgysylltiad gweithwyr, datblygu arweinyddiaeth a chreu diwylliannau sy’n galluogi busnesau i gyflawni twf proffidiol cynaliadwy. Un o’r gwersi pwysicaf i mi ei dysgu yw mai perchnogion busnes yn aml yw’r rhwystr mwyaf rhag twf, heb sylweddoli hynny fel arfer. Roedd hyn yn sicr yn wir amdana’ i yn y blynyddoedd cynnar. Drwy fentora rwy’n mwynhau helpu perchnogion busnes i ddatblygu’r sgiliau arwain, yr hyder a’r persbectif sydd eu hangen i feithrin timau cryfach, busnesau gwell a gyrfaoedd mwy boddhaus.
Rwy’n frwd dros gefnogi entrepreneuriaid o Gymru a helpu mwy o fusnesau o Gymru i wireddu eu potensial a dod yn gyflogwyr amlwg o fewn economi Cymru.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.