BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Alex Villar-Hauser

Jarron Consultancy Ltd
Swyddogaeth:
Rheolwr Gyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Ceredigion

Amdano

Mae’n anrhydedd cael fy newis i fod yn Fentor i Fusnes Cymru!

Rwyf wedi gweithio fel hyfforddwr arweinyddiaeth weithredol ac ymgynghorydd newid sefydliadol ers 1995. Cyn hynny, roeddwn yn arwain fy musnes llwyddiannus tu hwnt yn Efrog Newydd. Mae gennyf hanes o weithio gydag uwch arweinwyr i wella canlyniadau busnes yn fesuradwy. Rwy’n gwneud hyn drwy wella ansawdd y trafodaethau y mae arweinwyr yn cynnal ymhlith ei gilydd a gyda’u pobl – wrth weithio ar eu heriau a materion busnes ‘byw’.

Rwyf wedi gweithio fel mentor a hyfforddwr gyda thimau a phrosiectau rhyngwladol gyda sefydliadau o Elusennau, Cwmnïau Mawr, BBaChau, Asiantaethau Llywodraethol ac o fewn y Cenhedloedd Unedig.

Rwyf wedi gweithio a chefnogi cleientiaid mewn Manwerthu, Technoleg, Adeiladu, Fferylliaeth ac Iechyd, Olew a Chemeg, Gwyddoniaeth a Hybiau Arloesedd, Gwasanaethau Ariannol a Chyfleustodau.

Rwyf wedi cefnogi cleientiaid sydd wedi arwain busnesau newydd, wedi cael eu caffael, wedi arallgyfeirio, wedi bod eisiau tyfu, angen newid cyfeiriad neu sydd wedi bod angen cau neu adael marchnadoedd.

Rwy’n edrych ymlaen at archwilio’r busnes, newid, cwestiynau am arweinyddiaeth a heriau sydd gennych.

Mae fy ymarfer hyfforddi yn glynu at werthoedd a moesoldeb y Ffederasiwn Hyfforddi Rhyngwladol.

Gair i Gall

Gwrandewch yn wirioneddol ar eich pobl, eich cwsmeriaid, eich cyd-destun, eich calon.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.